Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arweiniodd yr Wythnos Dwysáu Gwaith ar Linellau Cyffuriau ddiweddaraf at arestiadau ac atafaelwyd cyffuriau dosbarth A, arfau ac arian parod.
Ymunodd Heddlu De Cymru â'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a heddluoedd eraill yn y DU, fel yr Heddlu Metropolitanaidd, i dargedu gangiau Llinellau Cyffuriau, gan arestio 31 o bobl rhwng dydd Llun, 25 Tachwedd a dydd Llun, 2 Rhagfyr.
Cafodd cyffuriau dosbarth A ac arfau, gan gynnwys machetes a chwistrelli CS, eu hatafaelu hefyd.
Roedd yr wythnos o weithredu yn cyd-redeg ag “wythnos genedlaethol dwysáu gwaith” a arweinir gan y Ganolfan Cydgysylltu Llinellau Cyffuriau Genedlaethol.
Cyflawnwyd gwarantau ledled de Cymru a arweiniodd at y canlynol:
Llinellau Cyffuriau yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio achos o ddelio cyffuriau lle caiff ffonau symudol eu defnyddio i gyflenwi cyffuriau, fel arfer o ddinasoedd mawr i drefi ac ardaloedd gwledig. Caiff Llinellau Cyffuriau eu rhedeg gan 'Ddalwyr Llinellau' ac mae'r rhedwyr, sydd weithiau'n bobl agored i niwed, yn dosbarthu'r cyffuriau. Pobl ifanc sy'n cael eu hecsbloetio yw'r rhedwyr yn aml, a gallant fod â chyllyll neu arfau yn eu meddiant. Mae'r system o ddosbarthu cyffuriau yn arwain at drais difrifol a chamfanteisio.
Cafodd wyth unigolyn eu diogelu yn ystod yr wythnos, gan gynnwys plentyn. Credir bod yr unigolion hyn, a oedd yn agored i niwed oherwydd eu hoedran neu eu sefyllfaoedd personol, fel dibyniaeth, wedi cael eu gorfodi a'u rheoli gan gangiau Llinellau Cyffuriau a'u bod yn wynebu risg ddifrifol o niwed o bosibl.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jamie Holcombe, o Uned Cudd-wybodaeth, Troseddau Economaidd a Seiberdroseddu yr Heddlu:
“Mae cymunedau ledled de Cymru yn wynebu bygythiadau gwirioneddol gan Linellau Cyffuriau. Mae'r gangiau yn cyflenwi cyffuriau dinistriol fel crac cocên a heroin ar raddfa fawr ac mae eu ffordd o weithio fel arfer yn cynnwys lefelau uchel o drais a gorfodi'r unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, gan gynnwys plant.
“Mae'r wythnos dwysáu gwaith ddiweddaraf hon wedi bod yn llwyddiant ac wedi anfon neges bwysig i'r rhai hynny sy'n gysylltiedig â'r gangiau. Ond nid yw ein gwaith i fynd i'r afael â Llinellau Cyffuriau yn golygu wythnos yn unig o weithredu – rydym yn ymrwymedig i fynd i'r afael â nhw ac mae ein hymdrechion i roi delwyr cyffuriau dan glo, sicrhau nad oes cyffuriau nac arfau ar ein strydoedd, a sicrhau nad yw delwyr yn elwa'n ariannol ar eu troseddau, yn parhau drwy gydol y flwyddyn.
“Dim ond gyda chefnogaeth aelodau'r cyhoedd a'r wybodaeth rydym yn ei chael ganddynt y gallwn wneud hyn, felly rwy'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am ddelio cyffuriau yn eu cymuned i gysylltu â ni. Mae pob darn o wybodaeth yn bwysig i ni a byddwn yn ei ddefnyddio i weithredu.”
Ddydd Mercher 27 Tachwedd, gweithiodd swyddogion o Dîm Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro gyda'r Heddlu Metropolitanaidd i weithredu gwarant chwilio o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau yn y Sblot, lle roeddent yn amau bod gang Llinell Gyffuriau oedd â chysylltiadau â Llundain yn defnyddio'r eiddo fel safle i ddelio cyffuriau. Daethpwyd o hyd i heroin a chrac cocên yng ngardd yr eiddo. Cafodd machete mawr a chyllell math Rambo eu hatafaelu hefyd. Cafodd Tafari Marshall, 20 oed o Riverside Drive, Chiswick, Llundain, Rhiel Mckenzie, 21 oed o Alma Link, Luton, Cockson Nsaka, 23 oed (cyfeiriad anhysbys) a Mpho Pitso, 19 oed o Aberthaw Drive, Casnewydd wedi'u dedfrydu am ymwneud â chyflenwi heroin a chrac cocên. Cafodd Victoria Tiltman, 39 oed o Bayside Road, y Sblot ei chyhuddo o ganiatáu'r defnydd o eiddo i gyflenwi heroin a chrac cocên.
Ddydd Sadwrn 30 Tachwedd, cynhaliodd swyddogion chwiliad o dan warant yn ardal Trowbridge, Caerdydd. Daethpwyd o hyd i'r unigolyn dan amheuaeth ac roedd ganddo 42 o becynnau stryd o grac cocên, chwe owns o heroin a 2.5 owns arall o grac cocên yn ei feddiant – cyffuriau gwerth cymaint â £18k. Cafodd Aaron Coleman, 28 oed o Trowbridge Green, Trowbridge, ei gyhuddo o fod â heroin a chrac cocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi ac am ymwneud â chyflenwi'r cyffuriau hynny. Cafodd deiliad yr eiddo, y credir iddo gael ei *gogio (cuckooed), ei ddiogelu.
Ddydd Gwener 22 Tachwedd, arestiodd swyddogion mewn dillad plaen ddau ddyn yn y Graig, ger Pontypridd. Cafodd un dyn ei arestio ar y stryd ac un arall mewn fflat gerllaw. Atafaelodd y swyddogion 93 o becynnau stryd o gocên, hanner cilogram o ganabis a £1500 o arian parod. Cafodd Abdul Farid, 28 oed o Corporation Road, Casnewydd ei gyhuddo o fod â chrac cocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, bod â chanabis yn ei feddiant, a bod ag eiddo troseddol, sef arian, yn ei feddiant. Cafodd Sam Newman, 27 oed of Dover Street, Aberpennar ei gyhuddo o ymwneud â chyflenwi crac cocên a bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant, yn arbennig arian.
Ddydd Gwener 29 Tachwedd, cynhaliodd swyddogion chwiliad o dan warant mewn cyfeiriad yn Aberafan. Daethpwyd o hyd i'r hyn a allai fod yn gocên, canabis a bron £8k o arian parod yn yr eiddo. Cafodd Tracey Crew, 58 oed o Heol Ysguthan, Aberafan ei chyhuddo o fod â chocên yn ei meddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, tyfu canabis, bod â chanabis yn ei meddiant, a bod ag eiddo troseddol, sef arian, yn ei meddiant. Mae ymholiadau yn mynd rhagddynt er mwyn dod o hyd i ddyn arall.
Mae'r gwaith i fynd i'r afael â Llinellau Cyffuriau yn fwy na gorfodi yn unig. Roedd yr wythnos dwysáu gwaith hefyd yn cynnwys canolbwyntio ar weithgareddau sy'n helpu i rymuso cymunedau i ddiogelu eu hunain ac eraill rhag Llinellau Cyffuriau.
Ymgysylltodd swyddogion â phobl ifanc, rhieni, athrawon a gweithwyr ieuenctid mewn clybiau ieuenctid, canolfannau cymunedol ac ysgolion, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ym maes tai a thrafnidiaeth, fel y rhwydwaith drenau a thacsis, a gaiff eu defnyddio'n aml gan redwyr cyffuriau, er mwyn tynnu eu sylw at beryglon gweithgarwch Llinellau Cyffuriau a sut i nodi'r arwyddion pan fydd pobl agored i niwed yn cael eu darbwyllo a'u gorfodi.
Cynhaliodd timau'r gymdogaeth gyrch cyllyll mewn cymunedau, gan chwilio ardaloedd lle y gallai arfau gael eu cadw. Bydd delwyr cyffuriau Llinellau Cyffuriau yn aml yn cuddio arfau mewn ardaloedd cyhoeddus er mwyn lleihau'r tebygolrwydd y byddant yn cael eu dal yn cario arfau – trosedd sy'n arwain at ddedfryd sylweddol o garchar.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Jamie Holcombe:
"Mae dealltwriaeth, cymorth a chydweithrediad pobl mewn amrywiaeth eang o amgylcheddau a rolau yn bwysig iawn, felly rydym hefyd yn canolbwyntio ar addysgu a grymuso'r rhai a all, gyda'i gilydd, helpu i greu rheng flaen wydn i fynd i'r afael â Llinellau Cyffuriau."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am ddelio cyffuriau gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Os bydd gan rywun bryderon am berson agored i niwed, dylai ffonio 999 os yw'n credu ei fod mewn perygl uniongyrchol. Fel arall, gall ffonio 101 neu ei adran gwasanaethau cymdeithasol leol. Mae asiantaethau fel Ymddiriedolaeth St Giles, Cymdeithas y Plant neu'r NSPCC hefyd yn cynnig cymorth uniongyrchol ac yn rhoi gwybodaeth a chyngor gwerthfawr.
Rhagor o wybodaeth am Linellau Sirol.