Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Llinellau sirol yw’r enw a roddir ar gyfer delio cyffuriau pan fo grwpiau troseddau cyfundrefnol yn defnyddio llinellau ffôn i symud a chyflenwi cyffuriau, o ddinasoedd i drefi llai ac ardaloedd gwledig fel arfer.
Maent yn camfanteisio ar bobl sy’n agored i niwed, gan gynnwys plant a’r rheini sydd â phroblemau’n ymwneud ag iechyd meddwl a chaethiwed i gyffuriau, drwy eu recriwtio i ddosbarthu cyffuriau, y cyfeirir ato’n aml fel ‘rhedeg cyffuriau’.
Mae nifer o arwyddion i gadw llygad allan amdanynt a allai ddangos bod rhywun yn gysylltiedig mewn llinellau sirol:
Mae grwpiau troseddau cyfundrefnol yn aml yn defnyddio llawer o drais a bygythiadau i ddiogelu ‘llinell sirol’ a’i rheoli. Un math o’r rheoli hwn yw camfanteisio ar bobl agored i niwed drwy ddefnyddio eu cartref fel canolfan ar gyfer delio cyffuriau, proses a elwir yn cogio. Yn aml bydd delwyr yn argyhoeddi’r person agored i niwed i adael i’w gartref gael ei ddefnyddio ar gyfer delio cyffuriau drwy roi cyffuriau am ddim iddo a chynnig talu am fwyd neu gyfleustodau.
Yn aml bydd grwpiau troseddau cyfundrefnol yn targedu pobl sy’n unig, wedi’u hynysu neu sydd â phroblemau gyda chaethiwed i gyffuriau. Mae’n gyffredin i grwpiau troseddau cyfundrefnol i ddefnyddio eiddo am gyfnod byr, gan symud cyfeiriad yn aml er mwyn osgoi’r siawns o gael eu dal.
Mae nifer o arwyddion i gadw llygad allan amdanynt a allai ddangos bod rhywun yn ddioddefwr cogio:
Os ydych chi’n bryderus ynglŷn â throseddau cysylltiedig â chyffuriau yn eich ardal, neu’n meddwl y gallai rhywun fod yn ddioddefwr camfanteisio cyffuriau, ffoniwch ni ar 101.
Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000. Neu tecstiwch ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw â’r gwasanaeth SMS brys.
Gallwch hefyd ei riportio ar-lein, neu gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu drwy crimestoppers-uk.org.
Ni chymerir unrhyw fanylion personol, ni ellir olrhain na recordio unrhyw wybodaeth ac ni fyddwch yn mynd i’r llys neu’n gorfod siarad â’r heddlu pan fyddwch yn cysylltu â Crimestoppers.