Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Swydd Amwythig wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o sawl trosedd rywiol.
Cafwyd Sean Murphy, 52 oed, yn euog o dreisio, ymosodiad rhywiol drwy dreiddio, ac ymosodiad drwy daro, a hynny yn Townhill, Abertawe ym mis Mai.
Heddiw, cafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd a hanner yn y carchar.
Mae hefyd wedi'i wneud yn destun gorchymyn atal am ddeng mlynedd. Bydd ei enw ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sharon Gill-Lewis:
“Roedd troseddau Sean Murphy yn ffiaidd, ac mae wedi cael ei ddedfrydu i ddedfryd hir o garchar.
“Hoffwn dalu teyrnged i ddewrder y dioddefwr wrth gysylltu â ni. Heb wneud hynny, byddai dyn peryglus iawn ar y strydoedd o hyd.”
I gael gwybodaeth a chanllaw ategol ar roi gwybod am droseddau rhywiol, gweler yma: Rhoi gwybod am droseddau rhywiol: Gwybodaeth a chanllaw ategol | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
I gael help a chymorth mewn perthynas â threisio, ymosodiadau rhywiol a throseddau eraill, gweler yma: Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)