Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe a gafwyd yn euog o lofruddio ei gymydog 71 oed wedi cael ei garcharu am oes.
Gwnaeth Brian Whitelock, 57 oed, o Glydach, ladd Wendy Buckney yn ei fflat ym mis Awst 2022, cyn gwadu llofruddiaeth ar y sail nad oedd yn llawn gyfrifol.
Fodd bynnag, ym mis Tachwedd fe'i cafwyd yn euog o lofruddio. Mae Whitelock wedi cael ei ddedfrydu i dariff llawn oes - sy'n golygu na fydd byth yn cael ei ryddhau o'r carchar.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies:
“Rydym yn falch iawn bod Brian Whitelock wedi cael ei garcharu am gyfnod oes llawn, sy'n ddedfryd addas o ystyried yr holl fywydau sydd wedi cael eu dinistrio oherwydd ei weithredoedd.
“Er gwaethaf ei orffennol, bu Wendy Buckney yn garedig iawn i Brian Whitelock. Diystyrodd y caredigrwydd hwn drwy ei llofruddio.
“Roedd lefel y trais a ddefnyddiodd Brian Whitelock yn erbyn ei ddioddefwr diamddiffyn yn erchyll.
“Gan amddiffyn ei hun yn y llys, nod Brian Whitelock oedd ymbellhau o'i weithredoedd, ond roedd yn gwbl ymwybodol o'r hyn yr oedd yn ei wneud.
“Mae teulu Wendy Buckney wedi bod drwy boen a thorcalon ofnadwy oherwydd gweithredoedd Brian Whitelock. Rwy'n gobeithio, oherwydd y ddedfryd heddiw, y gallant deimlo rhywfaint o gysur, a dechrau galaru ar ôl colli Wendy.”