Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi'i ganfod yn euog o lofruddio ei gymydog 71 oed.
Gwnaeth Brian Whitelock, 57 oed o Glydach, gyfaddef yn flaenorol i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn llawn gyfrifol, ond mae bellach wedi'i ganfod yn euog o lofruddio Wendy Buckney yn ei fflat ym mis Awst 2022.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies:
"Rydym yn falch o glywed y rheithfarn euog, gan ddod ag ymchwiliad trylwyr o achos disynnwyr Brian Whitelock o lofruddio ei ddioddefwr diamddiffyn i ben.
"Mae teulu Wendy Buckney wedi bod trwy brofiad ofnadwy a thrawmatig oherwydd gweithredoedd Brian Whitelock. Gyda'r rheithfarn hon a'r ddedfryd sydd i ddod, gobeithio eu bod yn cael rhywfaint o gysur."
Bydd Brian Whitelock yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener 20 Rhagfyr.
Mae teulu Wendy Buckney wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol.
"Mae'r rheithfarn heddiw yn rhoi rhywfaint o gyfiawnder i Wendy a gafodd ei chymryd oddi wrthym yn rhy gynnar o lawer. Er na all unrhyw beth ei chael hi'n ôl, rydym yn ddiolchgar bod y gwir wedi cael ei glywed.
"Roedd Wendy yn chwaer ac yn fodryb gariadus iawn, ac roedd ei charedigrwydd, ei chwerthin a'i hysbryd yn golygu cymaint i lawer o bobl. Ni fydd ein bywydau fyth yr un fath hebddi, ond byddwn yn parhau i'w chofio hi pob dydd.
"Bu hon yn daith boenus a thorcalonnus i'n teulu. Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn, a gofynnwn am breifatrwydd wrth i ni barhau i alaru a cheisio dod dros y drasiedi hon.
"Hoffem hefyd ddiolch i'r tîm erlyn a weithiodd yn ddiflino i gyflwyno'r gwir. Mae eu hymroddiad a'u hymrwymiad wedi ein helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Trawsgrifiad fideo:
BW: Dwi'n meddwl, dwi'n meddwl fy mod i wedi ei lladd hi, dwi wedi ei lladd hi
JL: Dwi wedi ei lladd hi, do, mae'n dweud fy mod i wedi ei lladd hi
BW: Dim ond troi rownd wnaeth hi, Felly mi wnes i ei lladd hi
JL: Dim ond troi rownd wnaeth hi, Felly mi wnes i ei lladd hi
BW: Wnes i ddim sylweddoli beth roeddwn i wedi ei wneud
BW: O dduw
BW: Beth ydw i wedi ei wneud
BW: Dwi ddim hyd yn oed yn deall pam
BW: Yn fy fflat i hefyd, gwnes i hynny yn fy fflat i
BW: Roeddwn i'n poeni mwy am Wendy, dwi'n siŵr mai fi wnaeth ei lladd hi