Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu am gyflawni sawl trosedd rywiol ar blant.
Cafodd Gareth Phillips, 32 oed o Sgiwen, ryw gyda'i ddioddefwr, a oedd yn 14 oed ar y pryd, yn ei gar ym mis Mawrth 2019. Ddeufis yn ddiweddarach, dechreuodd gwrdd â'r un dioddefwr i gael rhyw yn rheolaidd. Ym mis Tachwedd 2019, roedd eu perthynas yn ‘swyddogol’ – ond gofynnodd Phillips i'r dioddefwr gadw hyn yn gyfrinach.
Ym mis Mai 2021, treisiodd Phillips yr un dioddefwr pan roeddent yn aros mewn gwesty.
Mae wedi cael dedfryd o 10 mlynedd a hanner yn y carchar yn Llys y Goron Abertawe ar ôl cael ei ddyfarnu'n euog o bedwar achos o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn ac un achos o dreisio.
Dywedodd y Ditectif Ringyll David Connick:
“Mae Gareth Phillips yn unigolyn peryglus iawn a fanteisiodd ar ei ddioddefwr dan oed am nifer o flynyddoedd. Dangosodd ymddygiad rheolaethol cynyddol yn ystod eu perthynas, a byddai'n gwneud esgusodion i fod yn agos at deulu diarwybod y dioddefwr er mwyn sicrhau ei fod yn gallu cyrraedd y dioddefwr yn hawdd.
“Pan geisiodd ei ddioddefwr ddod â'r berthynas i ben, defnyddiodd reolaeth drwy orfodaeth i atal hyn, gan gynnwys bygwth hunanladdiad.
“Hoffwn dalu teyrnged i ddewrder y dioddefwr wrth gysylltu â ni ar ôl dioddef blynyddoedd o gamdriniaeth gan Gareth Phillips. Mae'r dioddefwr wedi dangos dewrder eithriadol drwy gydol yr ymchwiliad a'r treial.
“Mae Heddlu De Cymru yn parhau'n ymrwymedig i fynd i'r afael â phob math o gam-drin rhywiol ac mae gennym swyddogion arbenigol sy'n cael eu neilltuo i bob achos. Rydym yn cydweithio â'n hasiantaethau partner i gefnogi'r rhai y mae'r math hwn o gam-drin wedi effeithio arnynt, a byddwn yn annog unrhyw un i roi gwybod am unrhyw fath o gam-drin i'r heddlu. Ymchwilir i bob adroddiad yn drylwyr.”
Gellir dod o hyd i'n canllawiau ar sut i roi gwybod am achos o dreisio, ymosodiad rhywiol neu droseddau rhywiol eraill yma: Sut i riportio treisio, ymosodiad rhywiol neu droseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Mae ein gwybodaeth mewn perthynas â chymorth i ddioddefwyr achosion o dreisio ac ymosodiadau rhywiol ar gael yma: Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)