Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn cynnwys mwy na 6,000 o swyddogion, staff a gwirfoddolwyr. Mae gan bob un ei rinweddau, ei gefndir, ei safbwyntiau a'i brofiadau unigryw sy'n ein helpu i ddeall anghenion ein cymunedau amrywiol.
Mae Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol 2024 yn rhedeg o ddydd Llun 23 Medi i ddydd Sul 29 Medi a'r thema eleni yw ‘Mae Effaith yn Bwysig’, sy'n rhoi'r cyfle i ni dynnu sylw at y gwaith rydym yn ei wneud i sicrhau bod Heddlu De Cymru yn gyflogwr cynhwysol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein rhwydweithiau staff a'n hadrannau wedi bod yn gweithio i sicrhau cynhwysiant o fewn yr heddlu, er mwyn sicrhau effaith go iawn.
Mae ein Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus yn lansio nifer o fentrau newydd sydd wedi'u dylunio i gefnogi ein staff a hyrwyddo cynhwysiant, yn enwedig yn ystod profiadau sy'n newid bywyd fel dod yn rhiant neu fabwysiadu. Mae'r mentrau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad yr heddlu i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi, ni waeth ble y maent ar eu taith bersonol neu broffesiynol.
Mae ein tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi bod yn gweithio dros y flwyddyn ddiwethaf i hyrwyddo cynhwysiant ar draws #TîmHDC, gan gynnwys gweithio i adnewyddu ein Calendr Cynhwysiant a chydweithio'n agos ag amrywiaeth o adrannau a Rhwydweithiau Cymorth Staff, er mwyn tynnu sylw at ddigwyddiadau pwysig drwy gydol y flwyddyn. Mae'r dull hwn wedi galluogi'r tîm i ddathlu ac anrhydeddu digwyddiadau sy'n bwysig i'n gweithlu a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae digwyddiadau nodedig yn cynnwys cymryd rhan yn nigwyddiad Iftar Cymdeithas Heddlu Mwslimaidd De Cymru, gorymdeithio yn nigwyddiad Pride, dangosiad o Windrush @75, a threfnu gweddi ar gyfer y gwasanaethau brys ochr yn ochr â Hynafgwyr Windrush.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld De Cymru yn Gwrando yn cael ei gyflwyno. Mae De Cymru yn Gwrando yn fenter a lansiwyd gan Heddlu De Cymru gyda'r nod o atgyfnerthu dulliau o ymgysylltu â'r gymuned a gwella'r ymddiriedaeth rhwng yr heddlu a'r cyhoedd. Mae'r fenter wedi'i dylunio i greu llwyfan i breswylwyr yn Ne Cymru leisio eu pryderon, rhoi adborth, a rhannu eu barn am faterion plismona lleol. Drwy'r fenter hon, gall yr heddlu feithrin dealltwriaeth well o anghenion a blaenoriaethau'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, gan sicrhau bod strategaethau plismona yn gyson â disgwyliadau'r cyhoedd.
Mae ein rhwydweithiau staff yn chwarae rhan fawr wrth sicrhau ein bod yn gyflogwr cynhwysol. Mae eu cymorth a'u hymrwymiad parhaus i helpu i adolygu a datblygu ein dull gweithredu a chefnogi ein cydweithwyr yn hanfodol i sicrhau bod TîmHDC yn weithle cynhwysol ac amrywiol. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi gweld newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud, gan gynnwys cyflwyno mwy o grwpiau cymorth, cyfleusterau gwell i gydweithwyr eu defnyddio at ddibenion crefyddol, fel matiau gweddïo, a llawer mwy. Gallwch ddysgu mwy am ein rhwydweithiau staff yma.
Mae ein hymrwymiad i weithredu'n gadarnhaol yn mynd y tu hwnt i recriwtio. Mae wedi'i ymgorffori yn y ffordd rydym yn gweithredu a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Ein nod yw denu, recriwtio, cefnogi a hyrwyddo unigolion dawnus sy’n cynrychioli’r cymunedau amrywiol ledled De Cymru. Er mwyn gwir werthfawrogi gwahaniaethau, mae'n rhaid i ni fod yn gynhwysol, a chredwn fod pobl o gefndiroedd amrywiol, sydd â sgiliau a phrofiadau amrywiol, yn dod â syniadau ffres a all helpu i lywio dyfodol Heddlu De Cymru.
Dywedodd Mark Stevenson, y Prif Swyddog Pobl:
“Yma yn Nhîm HDC rydym am roi cymorth i'n cymunedau amrywiol a meithrin ymddiriedaeth a hyder y cymunedau hynny. Er mwyn gwneud hyn, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein staff, ein swyddogion a'n gwirfoddolwyr yn adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a'u bod yn cael eu cefnogi mewn amgylchedd gwaith cynhwysol.
Dyma pam y mae Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol yn bwysig i mi a Thîm HDC.
Rydym wir yn credu bod ein staff yn adlewyrchu'r amgylchedd rydym yn gweithio ynddo a'r safonau a'r gwerthoedd rydym yn cadw atynt. Yn ogystal â rhoi pwyslais penodol ar ddenu a recriwtio cydweithwyr o grwpiau a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, mae cynllun Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ein gweithlu hefyd yn ymrwymo i ddatblygu diwylliant o gynhwysiant trwy ddysgu, polisïau cefnogol, a disgwyliadau arweinyddiaeth clir.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r heddlu wedi rhoi nifer o raglenni ar waith gyda'r nod o wella cynwysoldeb yn yr heddlu. Dim ond drwy sicrhau cefnogaeth barhaus gan ein rhwydweithiau staff sy'n parhau i helpu i adolygu a datblygu ein dull ac i gefnogi cydweithwyr yn y gwaith y gellir cyflawni ein hymrwymiad cadarn i ddod yn weithlu mwy cynhwysol ac amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi eu gwaith a'u hymrwymiad parhaus yn fawr, a hoffwn ddiolch iddynt am eu cyfraniad.
Cyflwynwyd mentrau fel y gweithgor endometriosis a phecynnau cymorth ar gyfer ein staff a'n swyddogion sy'n feichiog, yn rhieni newydd neu'n mabwysiadu. Rydym hefyd yn falch o'r buddsoddiad a'r cymorth sydd ar gael i gydweithwyr o grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol er mwyn iddynt ddatblygu eu sgiliau ac i'w helpu i gamu ymlaen yn eu gyrfa gyda'r heddlu.
Mae'r ymdrechion a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf gan ein rhwydweithiau staff ac amrywiaeth o adrannau ym mhob rhan o'r sefydliad yn allweddol er mwyn sicrhau bod HDC yn gyflogwr cynhwysol ac rwy'n edrych ymlaen at weld effaith y newidiadau hyn.”