Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym am i’n sefydliad adlewyrchu’r amrywiaeth eang o gymunedau a wasanaethir gennym, ac rydym yn ymrwymedig i gefnogi staff a all deimlo eu bod wedi’u ‘tangynrychioli’ yn y gweithle. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, rydym yn falch bod amrywiaeth o gymdeithasau a rhwydweithiau staff gwahanol yn gweithredu o fewn Heddlu De Cymru. Mae gan eu gweithgareddau ddau ddiben, sef cynnig cyngor a chymorth i unigolion a chefnogi’r sefydliad o ran y penderfyniadau rydym yn eu gwneud.
Beth bynnag fo’ch ffordd o fyw neu’ch cefndir, gallwch ddisgwyl i’ch cydweithwyr, eich goruchwylwyr a’ch hyfforddwyr gefnogi eich datblygiad gyrfa yn y sefydliad.
Mae’r rhwydweithiau a’r cymdeithasau yn cynnwys:
Diben Cymdeithas Gristnogol yr Heddlu yw bod yn llais cenedlaethol i Gristnogion ym maes plismona, ac annog a chefnogi Cristnogion sy’n rhan o’r teulu plismona. Yn ogystal â darparu rhwydwaith a chymorth i Gristnogion yn Heddlu De Cymru, rydym hefyd yn gobeithio adeiladu pontydd rhwng y gymuned Gristnogol a’r Heddlu.
Mae Cymdeithas Gristnogol yr Heddlu yn cynnal gweithgareddau amrywiol i gefnogi’r gweithlu. Rydym yn cynnal digwyddiadau dros y Pasg a’r Nadolig ac ar Ddiwrnod Cenedlaethol Gweddïo dros yr Heddlu. Rydym hefyd yn cymryd rhan yn y gwasanaeth coffa blynyddol, ac yn y Diwrnod Cenedlaethol i Gofio’r Holocost. Mae aelodau yn cael negeseuon e-bost “Munud i Feddwl” bob wythnos hefyd. Mae gennym adnoddau ar ffurf llyfrau hefyd sy’n cynnig cyngor ymarferol ar feysydd megis priodas, teulu, profedigaeth a dyled.
Nod y CPA yw:
I gael rhagor o wybodaeth am rôl y CPA a beth y gall y gymdeithas ei wneud i chi, ewch i wefan y Gymdeithas Heddlu Cristnogol.
Mae’r Rhwydwaith Cymorth Anabl yn rhwydwaith cefnogol o gydweithwyr yn yr heddlu sydd ag anabledd neu sy’n byw drwy anabledd.
Fel rhwydwaith, ein nod yw sicrhau bod Heddlu De Cymru yn darparu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle gall staff ffynnu. Yn ogystal, rydym yn dylanwadu ar bolisïau a all effeithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar staff anabl, gan sicrhau bod y gweithle yn lle cynhwysol lle gall aelodau anabl o staff fod yn gynhyrchiol a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a chanolbwyntio mwy ar alluoedd yn hytrach nag anableddau.
Mae’r Rhwydwaith Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yn rhwydwaith cefnogol o gydweithwyr o bob rhan o’r heddlu sy’n gweithio gyda’i gilydd i annog Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau gwell yn y gweithle.
Fel rhwydwaith, ein nod yw sicrhau bod Heddlu De Cymru yn darparu amgylchedd gwaith cadarnhaol ar gyfer pob rhyw drwy annog cynrychiolaeth deg ar bob rheng ac ym mhob rôl. Rydym hefyd yn gweithio gyda Phrif Swyddogion ac Uwch-arweinwyr i ddylanwadu’n gadarnhaol ar ddatblygiad polisïau ac annog cyfle cyfartal i weithwyr benywaidd er mwyn sicrhau y gallant wireddu eu potensial i’r eithaf a ffynnu.
Fel rhwydwaith, mae gennym chwe llinyn allweddol sy’n ein helpu i gyflawni ein nodau:
Nod Cymdeithas Heddlu Du De Cymru yw gwneud De Cymru yn lle mwy diogel a heddychlon, lle mae gan y cyhoedd – yn enwedig pobl ifanc, pobl sy’n agored I niwed neu bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig – lefel uchel o hyder yn yr heddlu.
Mae gan aelodau’r gymdeithas rôl bwysig i’w chwarae wrth gyflawni’r nod hwn gan eu bod, yn gyntaf oll, yn rhan o’r cymunedau lleiafrifoedd ethnig ac, yn ail, yn aelodau o wasanaeth yr heddlu. Mae’r gymdeithas yn ceisio gwella amgylchedd Gwaith staff BAME yn Ne Cymru drwy wella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir i’w cymunedau amrywiol. Drwy ddarparu rhwydwaith cymorth ar gyfer pob aelod o staff BAME, ac ymdrechu i wella cydberthnasau rhwng yr heddlu a chymunedau BAME, bydd y gymdeithas yn chwarae rôl gadarnhaol drwy gefnogi aelodau o staff mewnol ac, yn allanol, drwy gefnogi pob cymuned yn Ne Cymru.
Mae gan y gymdeithas chwe amcan:
Mae Rhwydwaith Heddlu LGBT+ Cymru yn cynnwys aelodau a chynghreiriaid o bedwar heddlu Cymru ac mae’n creu teulu cefnogol o bobl sy’n ymroddedig i greu gweithleoedd amrywiol sy’n darparu cyfle cyfartal a lle diogel i unigolion fod yn nhw eu hunain.
Cyflawnir hyn drwy weithio gyda’r sefydliadau rydym yn gweithio iddynt a’u herio. Rydym yn gwneud hyn drwy gynorthwyo gyda threfniant yr heddlu, herio dealltwriaeth sefydliadau o ofynion hyfforddiant ac amrywiaeth a chyfleu anghenion ein cymunedau i’r rhai sy’n eu plismona. Mae’r rhwydwaith yn cynnig mynediad at grwpˆ eang o aelodau LGBT+ amrywiol a chefnogol sy’n dod o bob math o gefndiroedd ac sy’n uniaethu mewn ffyrdd gwahanol ac unigryw.
Yr hyn y gall Rhwydwaith LHDT Heddlu De Cymru ei wneud i chi fel cyflogai LHDT gwasanaeth yr heddlu:
Yr hyn y gall Rhwydwaith LHDT Heddlu De Cymru ei wneud i chi fel cyflogai yr heddlu nad yw’n LHDT:
Mae rolau eraill Rhwydwaith LHDT Heddlu De Cymru yn cynnwys:
Mae Rhwydwaith LHDT+ Heddlu De Cymru yn rhan o Rwydwaith LHDT+ Cenedlaethol yr Heddlu. Cenhadaeth y rhwydwaith yw sicrhau bod Gwasanaeth yr Heddlu ac Asiantaethau Trosedd eraill yn hyrwyddo cynhwysiant a chyfle cyfartal i’n staff LHDT+ ac yn gweithio tuag at sefydliad sy’n adlewyrchu ein cymunedau amrywiol.
Os hoffech ddysgu mwy, ewch i’r wefan.
Os bydd angen i chi gael ein gwybodaeth cydraddoldeb mewn fformat arall, cysylltwch â ni i ofyn amdani neu i drafod eich anghenion.