Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafwyd Guy Watson, 33 oed, yn euog o saith achos o ymosodiadau rhywiol ym mis Mehefin a dychwelodd i Lys y Goron Caerdydd heddiw (Dydd Gwener, 19 Gorffennaf) lle cafodd ei ddedfrydu i 8 mlynedd.
Cafodd ei arestio ar Ddydd Nadolig 2022 ar ôl i swyddogion ganfod fideos ar ei ffôn symudol yn ei ddangos yn ymosod ar ddyn yn rhywiol yn ei fflat.
Daethpwyd o hyd i'r dioddefwr, a daethpwyd o hyd i ragor o fideos o'r ymosodiad ar ffôn symudol y dioddefwr hefyd.
Yn ystod yr ymosodiadau rhywiol, gwelir a chlywir y dioddefwr yn cysgu'n drwm.
Gwadodd Watson y troseddau ond fe'i cafwyd yn euog o saith cyhuddiad gan gynnwys pum cyhuddiad o ymosodiad rhywiol a dau gyhuddiad o achosi dyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol heb gydsyniad.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Christopher Day o Heddlu De Cymru:
"Mae'r digwyddiad hwn wedi cael effaith ddwys ar iechyd meddwl y dioddefwr, ei waith a'i gydberthnasau.
"Ym mis Ebrill 2022, roedd Watson ac ef yn cymdeithasu yn fflat Watson ar Stanwell Road, Penarth, lle roeddent yn yfed ac yn gwrando ar gerddoriaeth.
"Ni all y dioddefwr gofio unrhyw beth arall ar ôl y pwynt hwn a'r tro cyntaf iddo wybod ei fod wedi dioddef ymosodiad rhywiol oedd pan gafodd fideos eu darganfod ar ei ffôn symudol tua mis yn ddiweddarach.
"Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur i'r dioddefwr wrth iddo barhau i ailadeiladu ei fywyd a rhoi'r trawma hwn y tu ôl iddo."
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad am drais rhywiol o ddifrif, ac nid yw byth yn rhy hwyr i roi gwybod am drosedd.
Byddem yn annog pob dioddefwr, ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd, i roi gwybod amdani.
Gall rhoi gwybod am achos o drais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu unrhyw drosedd rhywiol arall fel dinoethi anweddus, fod yn anodd. Rydym yma i'ch cefnogi os byddwch yn barod i roi gwybod am achos neu os byddai'n well gennych siarad â rhywun arall.
Rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yma.
Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol: