Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Gwnaeth Andrew Wager, 38 oed, o Gastell-nedd, dreisio ac ymosod yn rhywiol ar ei ddioddefwr, a oedd yn 15 oed ar y pryd, yn ystod parti yn ei gartref.
Gwadodd Wager y troseddau, ond fe'i cafwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Abertawe.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i saith mlynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Alison Thomas:
“Mae Andrew Wager yn rheibiwr peryglus a wnaeth dreisio ac ymosod yn rhywiol ar blentyn diamddiffyn.
“Ni ellir cyfleu mewn geiriau y difrod parhaus y mae wedi ei achosi i'w ddioddefwr.
"Bydd bellach yn treulio cyfnod sylweddol yn y carchar, ac mae'n llawn haeddu hynny.”
Gellir dod o hyd i ganllawiau ar sut i roi gwybod am achos o dreisio, ymosodiad rhywiol neu drosedd rywiol arall yma: Sut i riportio treisio, ymosodiad rhywiol neu droseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi'n barod i'w riportio, rydym wedi casglu gwybodaeth yma i'ch helpu i benderfynu ai riportio yw’r cam cywir i chi.