Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd dyn o Abertawe ddedfryd o garchar estynedig am gyflawni nifer o droseddau gan gynnwys dau gyhuddiad o ymgais i dreisio.
Cafodd Leo Payne, 20 oed o Fôn-y-maen, ei gael yn euog o ddau gyhuddiad o ymgais i dreisio ar ddau ddioddefwr gwahanol, yn ogystal ag un cyhuddiad yr un o ymosod yn rhywiol, dinoethi anweddus ac o achosi niwed corfforol difrifol (GBH).
Yr wythnos hon, mae wedi cael dedfryd estynedig o 16 mlynedd o garchar, gydag 11 mlynedd a thri mis ohono yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Kelly Hurley:
“Manteisiodd Leo Payne ar ei ddioddefwyr pan oeddent ar eu pen eu hunain ac yn agored i niwed yng nghanol dinas Abertawe.
“Mae ei droseddau mynych yn dangos ei fod yn berygl difrifol i eraill, ac nid oedd unrhyw dystiolaeth o edifeirwch am ei weithredoedd.
“Hoffwn dalu teyrnged i'w ddioddefwyr am eu dewrder yn cysylltu â ni i adrodd am weithredoedd Leo Payne. Bydd pob un ohonynt yn delio ag effeithiau trawmatig ofnadwy ei droseddau am amser hir, ond gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn rhoi rhywfaint o gysur iddynt na fydd bellach ar y strydoedd.”
Gellir dod o hyd i ganllawiau ar sut i roi gwybod am achos o dreisio, ymosodiad rhywiol neu drosedd rywiol arall yma: Sut i riportio treisio, ymosodiad rhywiol neu droseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi'n barod i roi gwybod amdano, rydym wedi casglu gwybodaeth yma i'ch helpu i benderfynu ai riportio yw’r cam cywir i chi.