Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dwsinau o Wirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu wedi'u croesawu i deulu #TîmHDC yn ystod y Seremoni gyntaf i Ardystio Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu i'w chynnal ers pedair blynedd.
Cafodd y bobl ifanc a'u teuluoedd o bob cwr o Dde Cymru, eu cyfarch gan yr Adran Geffylau, yr Halberdwyr a Band Heddlu De Cymru yn y digwyddiad yn Orendy Margam.
Cafodd Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu a'u gwesteion eu cyfarch gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Danny Richards a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael.
Gan groesawu Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu, dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richards wrthynt:
“Yn y bôn, cysyniad syml yw cynllun Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu. Ei nod yw annog pobl 14 i 18 oed i fod yn ddinasyddion da drwy wirfoddoli yn eu cymunedau, dysgu am blismona a thrwy roi cyfle i bobl ifanc gael eu clywed. Mae'r cysyniad yn un syml ond mae'n cael effeithiau trawsnewidiol.
“Mae'n trawsnewid y bobl ifanc sy'n cymryd rhan. Maent yn dysgu sgiliau newydd, yn magu hyder ac yn cael eu cyflwyno i gyfleoedd unigryw. Mae'n trawsnewid arweinwyr y cynllun wrth iddynt ymgysylltu â'n pobl ifanc sy'n eu hysbrydoli a'u herio a dysgu o'u safbwyntiau. Mae'n trawsnewid ein cymunedau wrth iddynt ddod yn lleoedd mwy diogel a chydlynus i fyw ynddynt.”
Yna ychwanegodd:
“Braint oedd croesawu Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu yn ffurfiol i Heddlu De Cymru. Roedd yn noson wych ac yn ffordd briodol o gydnabod y cyfraniad y mae'r bobl ifanc hyn yn ei wneud i'w cymunedau.”
Mae cynllun Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu ar agor i bobl ifanc rhwng 14 a 18 oed. Nid yw'n ymwneud â recriwtio swyddogion heddlu, ond yn hytrach mae'n anelu at ddatblygu ymdeimlad o ddinasyddiaeth dda mewn pobl ifanc.
Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion a gwybodaeth am y rôl bwysig y mae ein gwirfoddolwyr yn ei chwarae fel rhan o Dîm HDC drwy ymweld â: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-de-cymru/ardaloedd/gyrfaoedd/gyrfaoedd/gwirfoddolwyr-chwnstabliaid-arbennig/police-youth-volunteers/