Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwnaeth Steven Felix, 36 oed, o Fracla, Pen-y-bont ar Ogwr, gam-drin plentyn dan 13 oed yn rhywiol, rhwng haf 2019 a diwedd 2020.
Cafodd swyddogion adroddiad am y gamdriniaeth ym mis Mai 2021.Yn dilyn ymchwiliad, cafodd ei gyhuddo o 24 o droseddau trais a gweithgarwch rhywiol â phlentyn.
Ddydd Gwener, 22 Mawrth, cafodd ei ddedfrydu i 24 mlynedd yn y carchar, a chafodd orchymyn trwyddedu chwe blynedd ychwanegol a Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am oes.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Jo Williams-Smith: "Mae Steven Felix yn unigolyn rheibus a fanteisiodd ar blentyn a'i gam-drin mewn ffordd erchyll.
"Bydd yn rhaid i'r dioddefwr yn yr achos hwn fyw gyda'r atgof o'r gamdriniaeth ofnadwy hon am weddill ei oes. Rwy'n falch bod y llys wedi cydnabod hyn drwy roi dedfryd hir o garchar i Steven Felix, sef y canlyniad yr oedd yr achos yn ei haeddu. Hoffwn dalu teyrnged bersonol i'r dioddefwr am gysylltu â ni ac am barhau â'r ymchwiliad. Diolch i'w ddewrder, gwnaethom sicrhau erlyniad llwyddiannus.
"Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn annog dioddefwyr eraill camdriniaeth rywiol i gysylltu â ni. Byddwn yn eich credu ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddwyn troseddwyr o flaen eu gwell, ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd.
"Rydym yn cymryd pob honiad o gamdriniaeth rywiol o ddifrif. Mae gennym dimau sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig sy'n ymchwilio i droseddau rhywiol ac yn rhoi cymorth i ddioddefwyr. Os ydych wedi profi troseddau o'r fath, byddwn yn gwrando arnoch, a byddwn yn eich credu."
Rydym wedi creu llyfryn sy'n rhoi gwybodaeth i unrhyw un sy'n ystyried rhoi gwybod am drais neu ymosodiad rhywiol – cliciwch ar y ddolen hon https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-de-cymru/ardaloedd/campaigns/ymgyrchoedd/rhoi-gwybod-am-droseddau-rhywiol-gwybodaeth-a-chanllaw-ategol/