Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Tîm Trwyddedu Heddlu De Cymru yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot wedi partneru â staff Trwyddedu Tacsis Cyngor Abertawe er mwyn cynnal ymgyrch tacsis ar y cyd i sicrhau diogelwch teithwyr.
Yn ystod yr ymgyrch:
Dywedodd y Rhingyll Chris Dix:
“Roedd hon yn ymgyrch bwysig a roddwyd ar waith er mwyn helpu i sicrhau diogelwch teithwyr mewn tacsis ar ôl noson allan yng nghanol y ddinas.
“Rydym am i deithwyr deimlo'n dawel eu meddwl ac yn hyderus y bydd unrhyw dacsi y byddant yn ei ddefnyddio ar ôl noson allan yn cydymffurfio'n llawn â deddfwriaeth diogelwch.”
Dywedodd David Hopkins, Aelod o'r Cabinet ar gyfer Gwasanaeth a Pherfformiad Corfforaethol:
“Mae tacsis yn elfen bwysig o drafnidiaeth gyhoeddus ein dinas ac rydym am sicrhau bod y cerbydau y mae'r cyhoedd yn teithio ynddynt yn ddiogel.
“Rydym yn gweithio'n rheolaidd gyda'n heddlu lleol i wirio tacsis sy'n gweithio yn y ddinas, a byddwn yn parhau i gymryd camau i sicrhau bod gweithredwyr tacsis yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod eu cerbydau'n addas i'r ffordd fawr ac yn ddiogel i'w defnyddio.”