Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
O Sonic i Super Mario drwy PES a Pinball, cafodd Gorsaf Heddlu Canol Caerdydd ei thrawsnewid yn ganolfan chwarae gemau 'retro' ddydd Sul diwethaf (Mai 12) – wrth i'r tîm plismona lleol barhau â'i ymdrechion i ymgysylltu â'r gymuned.
Daeth Paperboy, Pacman a Donkey Kong i'r amlwg unwaith eto wrth i ymwelwyr o bob oedran gyfnewid ffonau clyfar am ffyn llywio a ffaswyr golau er mwyn mwynhau gemau o'r 80au, y 90au a dechrau'r 20au, yn y digwyddiad cyntaf o'i fath i'w gynnal yng ngorsaf Parc Cathays.
Dim ond y diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal ledled ardal Heddlu De Cymru i feithrin a gwella ein cydberthnasau cadarnhaol â chymunedau lleol yw'r digwyddiad hwn a drefnwyd gan y tîm plismona yn y gymdogaeth yng nghanol dinas Caerdydd.
Er mwyn ail-greu'r oes a fu, cafodd y consolau – a oedd yn cynnwys popeth o'r Nintendo gwreiddiol i'r Sega Saturn – eu cysylltu â monitorau o hen ystafell teledu cylch cyfyng (CCTV) gorsaf yr heddlu.
A gall pawb a gollodd ddigwyddiad dydd Sul gysuro eu hunain drwy wybod y bydd digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn y dyfodol, a gaiff eu hysbysebu maes o law.
Cynnyrch meddwl PC Paul Griffiths, sef rheolwr rhawd cymdogaeth canol y ddinas, oedd y digwyddiad chwarae gemau 'retro'.
Dywedodd PC Griffiths:
“Mae meithrin cysylltiadau cryf â'r gymuned yn hanfodol i rôl yr heddlu ac rydym yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.
“Mae'r digwyddiadau hyn ar sawl ffurf, ond gwyddom y gallai rhywbeth llawn hwyl – fel trefnu bod y gemau fideo 'retro' hyn ar gael – ennyn mwy o ddiddordeb ymhlith llawer o'n trigolion lleol. Roedd yn braf gweld cynifer o bobl yn mwynhau eu hunain ac yn cymryd yr amser i ddod i adnabod rhai o'u swyddogion heddlu a PCSOs lleol.
“Diolch yn fawr i'r tîm yn 8BitBeyond am fenthyg y consolau a'r gemau i ni, yn ogystal â'r rhai a ddarparodd fyrbrydau a diodydd – ac i PC Leighton Brown, a chwaraeodd ran allweddol yn helpu i drefnu'r digwyddiad o'r cychwyn cyntaf.”
Dywedodd Stuart McDean, Prif Arolygydd Plismona yn y Gymdogaeth Caerdydd a'r Fro:
“Hoffwn ddiolch i Paul a Leighton am eu holl ymdrechion yn trefnu'r digwyddiad hwn a sicrhau ei fod yn llwyddiant.
“Prif ddiben timau plismona yn y gymdogaeth yw gweithio gydag aelodau o'r cyhoedd, er mwyn eu deall ac ymateb i'w hanghenion a'u blaenoriaethau.
“Rydym hefyd yn ceisio chwalu unrhyw rwystrau rhwng pobl ifanc a'r heddlu, er mwyn helpu i ennyn hyder yn yr heddlu a rhoi gwybod i bobl ein bod yno iddyn nhw os bydd angen ein cymorth arnyn nhw.
“Gwn fod gwaith y tîm wedi mynd tipyn o'r ffordd i sicrhau hyn, ac na fydd pylu ar ei ymrwymiad i wasanaethu'r gymuned.”
** Rydym yn awyddus i ddarparu'r gwasanaeth hwn i'r gymuned a grwpiau iechyd meddwl: gallwch gysylltu â ni drwy anfon neges e-bost i [email protected]