Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Rondda Cynon Taf wedi cael ei garcharu am gyflawni sawl trosedd rywiol ar blant.
Cafwyd Adam John, 31 oed o Bontypridd, yn euog o dri achos o ymosod yn rhywiol ar blentyn ac un achos o drais.
Ddydd Mawrth 21 Mai, cafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd a thri mis yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd. Cafodd hefyd orchymyn atal niwed rhywiol yn ogystal â gorchmynion atal am gyfnod amhenodol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Chris Phillips: "Hoffwn ganmol dewrder y dioddefwyr wrth roi gwybod am yr ymosodiad hwn, sydd wedi ein galluogi i ddwyn unigolyn peryglus o flaen ei well.
"Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn annog pobl eraill sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol i gysylltu â ni. Byddwn yn eich credu ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddwyn troseddwyr o flaen eu gwell, ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd.
“Os ydych wedi profi troseddau o'r fath, byddwn yn gwrando arnoch, a byddwn yn eich credu."
Mae ein canllawiau ar gymorth i'r rhai y mae trais ac ymosodiad rhywiol wedi effeithio arnynt ar gael yma: Cymorth ar gyfer treisio ac ymosodiadau rhywiol | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk/cy-GB)
Gallwch weld ein gwybodaeth a'n canllaw ategol ar roi gwybod am droseddau rhywiol yma: Riportio troseddau rhywiol: Gwybodaeth a chanllaw ategol| Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)