Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pedoffilydd sydd wedi'i ddyfarnu'n euog wedi cael dedfryd o 20 mlynedd ac wyth mis am droseddau rhywiol hanesyddol yn erbyn plentyn.
Plediodd Robert Evans, o Drelái, Caerdydd, yn euog i naw trosedd yn cynnwys treisio plentyn, ymosodiad rhywiol ar blentyn dan 13 oed a thorri gofynion hysbysiad troseddwr rhyw.
Daeth ei droseddau i'r amlwg pan ddywedodd y dioddefwr wrth ei fam.
Pan gafodd ei arestio, dywedodd Evans wrth y swyddogion:"Ro'n i'n gwybod y byddai hyn yn digwydd, rwyf wedi bod yn aros am y diwrnod hwn ers amser."
Cyfaddefodd Evans, 58 oed, yn llawn i'r troseddau ac ar 8 Ebrill 2024, cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd i 12 mlynedd ac wyth mis yn y carchar, gyda chyfnod trwydded estynedig o wyth mlynedd. Cafodd ei wneud yn destun gofynion hysbysiad troseddwr rhyw a Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am gyfnod amhenodol hefyd.
Ditectif Gwnstabl Chloe Parfitt o Dîm Ymchwilio i Achosion o Dreisio Uned Reoli Sylfaenol Caerdydd a'r Fro oedd y swyddog yn yr achos.
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad am drais rhywiol o ddifrif, ac nid yw byth yn rhy hwyr i roi gwybod am drosedd.
Mae cymorth ar gael i bob dioddefwr trais rhywiol a byddem yn annog pob dioddefwr; ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd, i roi gwybod amdani.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael:https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/sut-i-riportio-treisio-ymosodiad-rhywiol-troseddau-rhywiol-eraill/
Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol:
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng