Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yr heddlu yn Nhreorci wedi cael pwerau ychwanegol i ymdrin â phobl ifanc sy'n achosi problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol y penwythnos hwn.
Cafodd y penderfyniad ei wneud yn dilyn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddiweddar yn yr ardal a achosodd bryder ymysg preswylwyr.
Bydd y gorchymyn gwasgaru, a roddir o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, yn berthnasol i'r rhai sydd yn 10 oed neu'n hŷn, a bydd ar waith tan 8.00pm nos Sul 19 Mai.
Mae'r gorchymyn yn cwmpasu'r ardaloedd sy'n cynnwys tir clwb criced Treorci ac ardaloedd cysylltiedig y parc, tir rygbi Treorci, A4061 y Stryd Fawr o gyffordd Stryd y Capel hyd at gyffordd Cemetery Road. Mae hefyd yn cynnwys Station Road o'r Stryd Fawr i Park Crescent.
Yn unol â'r ddeddfwriaeth hon, caiff unrhyw un rhwng 10 a 16 oed ei ddanfon i gyfeiriad ei gartref neu fan diogel. Bydd gan Swyddogion yr Heddlu a PCSOs hefyd y pŵer i atafaelu unrhyw eiddo y bydd swyddogion yn amau ei fod yn cael ei ddefnyddio i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywedodd y Prif Arolygydd Emma Hampton: “Ni fyddwn yn goddef achosion o yfed dan oed neu unrhyw fath o ymddygiad annerbyniol arall yn yr ardal. Gofynnaf i rieni a gwarcheidwaid atgoffa eu plant i osgoi'r ardal hon y penwythnos hwn.
“Bydd gennym hefyd adnoddau ychwanegol a byddwn yn cynnal patrolau amlwg iawn yn y gymuned er mwyn rhoi tawelwch meddwl i'r cyhoedd ac ymdrin ag unrhyw faterion i wneud yn siwr bod y preswylwyr yn cadw ac yn teimlo'n ddiogel.”
“Dewch i siarad ag aelod o'r timau os bydd gennych unrhyw bryderon. Neu, gallwch gysylltu â ni gydag unrhyw wybodaeth sydd gennych ar-lein drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101.”