Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn sawl adroddiad am bobl ifanc yn ymgasglu ac yn ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol ym Mharc Ystradfechan, Treorci ddydd Gwener diwethaf (17 Mai), mae swyddogion wedi cael pwerau ychwanegol o dan Adran 34 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i wasgaru pobl yn yr ardal a ddangosir ar y map hwn rhwng 3:00pm ddydd Gwener 24 Mai a 7:00am ddydd Sul 26 Mai.
Dywedodd yr Arolygydd Matthew Jacob:
“Rwy'n annog rhieni/gwarcheidwaid i siarad â'u plant cyn heno er mwyn sicrhau nad ydynt yn ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol a'u bod yn gofalu amdanynt eu hunain dros y penwythnos.
“Rwy'n deall bod pobl am ddathlu yn dilyn straen yr arholiadau a dechrau'r gwyliau hanner tymor. Fodd bynnag, rwy'n gofyn i chi wneud hynny mewn ffordd nad yw'n cael effaith negyddol ar eich cymuned.
“Rydym wedi rhoi mesurau ychwanegol ar waith i ddelio ag unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol y penwythnos hwn, a byddwn yn cymryd camau cadarn yn erbyn unrhyw un sy'n ymddwyn felly.”
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.