Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu am gyflawni sawl trosedd rywiol ar blant.
Cafodd Robert Johnson, 45 oed o Sandfields, ei ganfod yn euog o weithgarwch rhywiol drwy dreiddio â phlentyn; dau achos o annog/achosi plentyn i edrych ar lun o weithgarwch rhywiol; meddu ar lun pornograffig eithafol; gweithgarwch rhywiol (heb dreiddio) â phlentyn, ac annog gweithgarwch rhywiol â phlentyn.
Cafodd ei ddedfrydu heddiw i ddeng mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Abertawe. Bydd ei enw ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sharon Gill-Lewis:
“Hoffwn ganmol dewrder anhygoel y dioddefwr wrth roi gwybod i ni am yr ymosodiad hwn, sydd wedi ein galluogi i ddod ag unigolyn peryglus o flaen ei well.
"Eto, hoffwn gydnabod gwaith PC Eleanor Dallas, a oedd yng ngofal yr ymchwiliad a arweiniodd at euogfarn a dedfryd Robert Johnson.
"Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn annog dioddefwyr eraill camdriniaeth rywiol i gysylltu â ni. Byddwn yn eich credu ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddwyn troseddwyr o flaen eu gwell, ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd.
"Rydym yn cymryd pob honiad o gamdriniaeth rywiol o ddifrif. Mae gennym dimau sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig sy'n ymchwilio i droseddau rhywiol ac yn rhoi cymorth i ddioddefwyr. Os ydych wedi profi troseddau o'r fath, byddwn yn gwrando arnoch, a byddwn yn eich credu."
Mae ein canllaw ar gymorth i'r rhai sydd wedi dioddef trais ac ymosodiad rhywiol ar gael yma: Cymorth ar gyfer treisio ac ymosodiadau rhywiol | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Gallwch weld ein gwybodaeth a'n canllaw ategol ar roi gwybod am droseddau rhywiol yma: Rhoi gwybod am droseddau rhywiol: Gwybodaeth a chanllaw ategol | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)