Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am gyflawni nifer o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Anfonodd Phillip Bowler, o Mount Pleasant, negeseuon o natur rywiol at ei ddioddefwr cyn cwrdd ag ef i'w orfodi i ddileu'r negeseuon hynny. Yna, cyffyrddodd â'r dioddefwr yn amhriodol.
Yn ddiweddarach, anfonodd Bowler sawl neges arall at ei ddioddefwr, gan wneud cryn ymdrech i'w ysgogi i ymgymryd â gweithgarwch rhywiol. Gwnaeth hefyd anfon fideo o natur rywiol ohono'i hun at y dioddefwr.
Cafodd Phillip Bowler ei ddedfrydu heddiw i bedair blynedd a hanner yn y carchar am gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn, ysgogi plentyn i ymgymryd â gweithgarwch rhywiol a threfnu/hwyluso troseddau rhyw yn erbyn plant.
Bydd yn droseddwr rhyw cofrestredig am oes.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sharon Gill-Lewis:
“Ar ôl cael ei gam-drin gan Phillip Bowler am gyfnod hir o amser, penderfynodd ei ddioddefwr yn ddewr ddatgelu ymddygiad Bowler i aelod o'i deulu yn gyntaf ac yna i'r Heddlu.
“Mae'r ddedfryd hon yn dangos na fydd y math hwn o droseddu yn mynd heb gosb. Manteisiodd Phillip Bowler ar blentyn diamddiffyn mewn modd anfoesol, ac yn haeddiannol mae bellach yn dechrau dedfryd o garchar.”
Gellir dod o hyd i'n canllawiau ar roi gwybod am droseddau rhywiol yma: Rhoi gwybod am droseddau rhywiol: Gwybodaeth a chanllaw ategol | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Mae ein canllaw ar roi gwybod am droseddau rhywiol ar-lein ar gael yma: Riportio trosedd rywiol ar-lein | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)