Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae staff a swyddogion yr heddlu wedi cael eu diolch am eu gwaith caled dros gyfnod yr ŵyl, ar ôl derbyn mwy na 14,000 o alwadau rhwng 23 Rhagfyr a 1 Ionawr – sy'n cyfateb i un bob munud.
O'r 14,000 alwadau a dderbyniwyd dros y cyfnod o 10 diwrnod, roedd cyfanswm o 6,289 o alwadau brys, yn ogystal â 7,773 o alwadau nad oeddent yn rhai brys.
Cafodd bron i 700 o adroddiadau eu derbyn hefyd drwy'r ffurflenni rhoi gwybod ar-lein sydd ar gael ar wefan Heddlu De Cymru.
Mae'r Prif Arolygydd Dean Thomas, rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus (yr ystafell reoli), wedi talu teyrnged i'r staff am eu hymdrechion. Dywedodd:
“Mae plismona yn wasanaeth 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn, ac ni ellir amau ymroddiad ein timau i'w rolau – gan gynnwys dros gyfnod y Nadolig.
“Boed yn staff yn ein hystafell reoli, yn swyddogion rheng flaen, neu unrhyw rôl blismona arall, rydym yn gwybod y gall fod angen ein cymorth ar bobl ar unrhyw adeg, ac felly mae'n bwysig iawn eu bod yn gwybod ein bod yna ar eu cyfer.”
Roedd cyfanswm y galwadau dros draean yn fwy na'r tua 10,000 a gafwyd yn ystod yr un cyfnod y llynedd.
Ond os nad oes argyfwng, gall pobl hefyd gysylltu â ni gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau eraill yn hytrach na ffonio. Mae'r rhain yn cynnwys y ffurflenni rhoi gwybod ar-lein ar wefan yr heddlu, yn ogystal â swyddogaeth Sgwrs Fyw newydd sy'n galluogi pobl i siarad mewn amser real ag aelod o staff yn ein hystafell reoli, eto drwy ein gwefan. Dylai unrhyw un sydd am fanteisio ar hyn chwilio am yr eicon glas ar waelod llaw dde'r tudalennau perthnasol ar y wefan, ac yna ddilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
Ychwanegodd y Prif Arolygydd Thomas:
“Byddwn bob amser yn gorfod blaenoriaethu'r galwadau mwyaf brys rydym yn eu cael, ond gallwch hefyd ein helpu ni i'ch helpu chi, drwy beidio â ffonio 999 oni bai bod argyfwng.
“Os nad yw'n fater brys, rydym yn gweithredu nifer o opsiynau cysylltu ar-lein a gaiff eu trin yn yr un modd yn union â galwadau 101.
“Rydym hefyd yn derbyn galwadau am faterion sy'n amherthnasol i'r heddlu – er enghraifft, eich cyngor fyddai'r pwynt cyswllt cyntaf gorau fel arfer ar gyfer nifer o ddigwyddiadau megis niwsans sŵn a thipio anghyfreithlon.”