Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menyw o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei charcharu am ei rôl yn cyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Roedd Tracey Crew, 58 oed o Aberafan, yn destun gwarant chwilio yn ei chyfeiriad cartref ar 29 Tachwedd. Pan gyrhaeddodd y swyddogion, pwyntiodd at fag siopa plastig yn cynnwys cocên, swm mawr o arian papur, llyfr nodiadau a thin cawl ffug a oedd yn cynnwys sawl rôl fawr o bowdr gwyn.
Daethpwyd o hyd i ragor o sylweddau, arian parod a chyfarpar cyffuriau yn ystod chwiliad o'r cyfeiriad, a daethpwyd o hyd i sawl planhigyn canabis mewn ystafell gwely.
Ar ôl pledio'n euog, mae wedi cael ei dedfrydu i dair blynedd yn y carchar am fod â chocên yn ei meddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi. Cafodd dedfryd flaenorol o 12 mis am fod â chanabis yn ei meddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi hefyd ei gweithredu, sy'n golygu ei bod wedi'i dedfrydu i bedair blynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Heather Southway:
"Cafodd Tracey Crew ei dal yn defnyddio ei chyfeiriad cartref fel safle ar gyfer ei hymgyrch cyflenwi cyffuriau ac mae bellach yn dechrau ei dedfryd o garchar.
"Yr unig beth mae cyflenwyr cyffuriau fel hyn yn poeni amdano yw'r arian y maent yn ei wneud o ganlyniad i'w masnach anghyfreithlon, ac nid ydynt yn poeni dim am yr holl fywydau y mae cyffuriau yn eu dinistrio.
"Fel y mae'r ddedfryd hon a dedfrydau diweddar eraill wedi ei ddangos, byddwn yn gweithredu yn erbyn y rhai sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon. Byddant yn cael eu harestio, a byddant yn mynd i'r carchar."
I gael gwybodaeth am ein Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau a Lleihau Niwed ar gyfer 2022-2025, gweler yma: Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau a Lleihau Niwed 2022-2025 | Heddlu De Cymru