Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymwybodol o gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â digwyddiad protest yn Abertawe y penwythnos diwethaf.
Rydym wedi cael cwyn gan aelod o'r cyhoedd ynghylch y mater hwn, sydd bellach wedi cael ei gyfeirio at yr Adran Safonau Proffesiynol er mwyn ei asesu.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Mark Kavanagh:
"Mae gan aelodau o'r cyhoedd yr hawl i gynnal protest heddychlon, a bydd Heddlu De Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'r cyhoedd i hwyluso hyn.
"Fodd bynnag, ar yr achlysur hwn, bu'n rhaid i ni atal protestwyr rhag achosi anhrefn yn siop Marks and Spencer yn Abertawe, a oedd wedi peri loes i'r siopwyr ac aelodau o'r staff a oedd wedi gorfod gadael y siop er mwyn eu diogelwch eu hunain. Yn amlwg mae hyn yn annerbyniol.
"Rwy'n annog unrhyw un sy'n ystyried protestio i feddwl am ddiogelwch pobl eraill wrth gynllunio ble a sut i gynnal eu gweithgareddau, ac ymgysylltu'n gadarnhaol â swyddogion."