Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r heddlu yng Nghaerdydd yn parhau i ymchwilio i ddiflaniad Charlene Hobbs nad yw wedi cael ei gweld ers sawl mis.
Mae Charlene, 35 oed, yn dod o ardal Glan yr Afon yn y ddinas. Yn ogystal â Chaerdydd, mae gan Charlene gysylltiadau ag ardal Bryste.
Mae ditectifs am gael gwybodaeth am ei symudiadau a'i lleoliadau ers iddi gael ei gweld ddiwethaf ym Mharc Manwerthu Bae Caerdydd tua 10.30am ddydd Gwener, 19 Gorffennaf.
Mae dyn 45 oed o Adamsdown yng Nghaerdydd, a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r ymchwiliad hwn, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth nes y bydd ymchwiliadau pellach wedi cael eu cwblhau.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies:
“Rydym yn parhau i geisio gwybodaeth gan y cyhoedd am leoliadau Charlene.
“Rydym yn cadw meddwl agored o ran symudiadau Charlene ond rydym yn parhau i fod yn bryderus iawn am ei llesiant.
“Gallai unrhyw wybodaeth, ni waeth pa mor ddibwys ydyw yn eich barn chi, ein helpu i ddod o hyd iddi felly cysylltwch â ni.
“Rwyf hefyd yn apelio ar Charlene yn uniongyrchol i gysylltu â ni i roi gwybod i ni dy fod yn ddiogel.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 2400353044.
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd fideo ar ddyfeisiau megis ffonau symudol, camerâu teledu cylch cyfyng, clychau drws neu gamerâu dashfwrdd drwy'r ddolen hon: https://mipp.police.uk/operation/62SWP24B95-PO1
Neu:
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.