Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r heddlu yng Nghaerdydd yn ymchwilio i ddiflaniad menyw 37 oed o ardal Glan yr Afon.
Mae ditectifs am gael gwybodaeth am symudiadau a lleoliadau Charlene Hobbs nad yw wedi cael ei gweld ers 7 Gorffennaf 2024.
Mae dyn 45 oed o Adamsdown yng Nghaerdydd wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r ymchwiliad ac yn cael ei holi yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies:
“Rydym yn apelio ar unrhyw un a all fod â gwybodaeth a fydd yn ein helpu i ddod o hyd i Charlene nad yw wedi cael ei gweld ers dechrau mis Gorffennaf.
“Rydym yn cadw meddwl agored o ran lleoliad Charlene ond rydym yn bryderus iawn am ei llesiant.
“Gallai unrhyw wybodaeth, ni waeth pa mor ddibwys ydyw yn eich barn chi, ein helpu i ddod o hyd iddi felly cysylltwch â ni.
“Rwyf hefyd am apelio'n uniongyrchol i Charlene. Os wyt ti'n darllen hwn, cysyllta â'r heddlu i roi gwybod i ni dy fod yn ddiogel.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 2400353044.
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd fideo ar ddyfeisiau megis ffonau symudol, camerâu teledu cylch cyfyng, clychau drws neu gamerâu dashfwrdd drwy'r ddolen hon: https://mipp.police.uk/operation/62SWP24B95-PO1
Neu
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
E-bost [email protected]
101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng