Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 91 oed wedi ymddangos yn y llys am ymosodiadau rhyw hanesyddol a gyflawnwyd dros 30 mlynedd yn ôl.
Plediodd Raymond Skene o'r Sblot, Caerdydd, yn euog i ddau gyhuddiad o ymosodiad anweddus ac anwedduster difrifol gyda phlentyn.
Mewn Datganiad Personol Dioddefwr a gafodd ei ddarllen i'r llys, disgrifiodd y dioddefwr iddi ddioddef ôl-fflachiadau o'r ymosodiadau a theimladau o euogrwydd.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Adam Segarty:
“Roedd yr ymosodiadau lluosog wedi aros yng nghof y dioddefwr am fwy na 30 mlynedd, ac nid oedd erioed wedi meddwl y byddai'r diwrnod hwn fyth yn dod. Gobeithio y bydd y canlyniad yn y llys yn rhoi rhywfaint o gysur iddi er mwyn symud ymlaen.
"Mae'r achos hwn yn enghraifft arall pam nad yw byth yn rhy hwyr i ddioddefwyr troseddau rhyw gysylltu â'r heddlu.
“Ni ddylai cyflawnwyr troseddau rhywiol allu osgoi cael eu dal am eu troseddau, ni waeth pryd y cawsant eu cyflawni. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o ddioddefwyr i roi gwybod am droseddau.”
Ddydd Mercher 16 Tachwedd yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd Skene ei ddedfrydu i naw mis yn y carchar wedi'i ohirio am 18 mis.
Bydd hefyd yn destun cwrs adsefydlu 10 diwrnod a gofynion hysbysiad troseddwr rhyw am 10 mlynedd.
Os ydych wedi dioddef trosedd rywiol, mae swyddogion Heddlu De Cymru, ynghyd â gweithwyr cymorth arbenigol, yn barod i wrando arnoch a'ch helpu.