Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Joseph Tanetta wedi ei garcharu am ladrad treisgar ar y stryd yn y Sblot, Caerdydd.
Roedd yn un o ddau ddyn a ymosododd ar ddyn 27 oed wrth iddo gerdded adref ar ôl noson allan yng nghanol dinas Caerdydd.
Torrodd y dioddefwr asgwrn yn ei ên, yr oedd angen plât metel ar ei gyfer, a chafodd anaf trywaniad i'w glun.
Un o'r dynion a oedd yn gyfrifol oedd Tanetta, 30 oed.
Dywedodd y Ditectif Ringyll George Buckley o Heddlu De Cymru: "Roedd y dioddefwr yn cerdded adref ar ben ei hun am tua 4am ar 8 Mai, 2022, pan gerddodd heibio i Tanetta a dyn anhysbys yn Stryd Sanquhar.
"Dangosodd dystiolaeth iddynt agosáu at y dioddefwr o'r tu ôl, ei bwnio a chicio ei gorff a'i ben dro ar ôl tro, ei drywanu yn ei goes, a dwyn ei ffon, ei waled a'i allweddi.
"Roedd hon yn lefel ofnadwy o drais, ac mae'r deunydd fideo CCTV yn erchyll. Nid yw'n syndod i'r dioddefwr barhau i gael ôl-fflachiadau rheolaidd."
Cafodd Tanetta ei nodi fel unigolyn dan amheuaeth o DNA a gafwyd ym mhoced y dioddefwr. Ym mis Awst 2024, fe'i cafwyd yn euog o ladrata, bod â chyllell yn ei feddiant ac o achosi niwed corfforol difrifol.
Dychwelodd Tanetta i Lys y Goron Caerdydd ddydd Iau, 17 Hydref i gael ei ddedfrydu. Cafodd ei garcharu am 13 mlynedd gyda thrwydded estynedig o bum mlynedd.
Mae'r ail unigolyn dan amheuaeth yn parhau i fod yn anhysbys.
Ychwanegodd Ditectif Gwnstabl Buckley: "Hoffwn ganmol y dioddefwr am ei ddewrder drwy gydol y digwyddiad trawmatig hwn.
Gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn rhoi rhywfaint o gysur ac yn ei alluogi i gael ei hyder yn ei ôl. "Mae Tanetta yn droseddwr peryglus, ac mae'r ddedfryd hir hon gan y barnwr yn adlewyrchu hyn."