Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae deliwr cyffuriau o Gaerdydd wedi ei garcharu am bron i saith mlynedd.
Shaquille Hatim, 24, oedd prif aelod llinell cyffuriau 'Alfie' a oedd yn gweithredu o Drelái.
Cafodd ei arestio ar ôl i swyddogion cudd ei weld yn gwerthu cyffuriau ar Mill Road ar 20 Ebrill, 2024.
Gwnaethant ei wylio'n gadael ac yn dychwelyd i'r un cyfeiriad, ac yn fuan wedyn, aethant mewn i'r eiddo drwy orfodaeth.
Y tu mewn daethpwyd o hyd i 41 o rolion unigol o grac cocên. Hefyd, daethpwyd o hyd i £27,989 a 5,065 o Ewros.
O weld pecynnau maint-cilogram gwag yn y cyfeiriad roedd yn amlwg bod Hatim yn gyflenwr cyffuriau Dosbarth A sylweddol pan gafodd ei arestio.
Credir bod Hatim wedi dechrau llinell cyffuriau 'Alfie' i osgoi swyddogion, ar ôl i linell cyffuriau a alwyd yn llinell cyffuriau 'S', gael ei chau gan yr heddlu yn Ionawr, 2024.
Yn ardal Trelái roedd Hatim yn cyflenwi cyffuriau yn bennaf, gan gydgysylltu tîm o 'redwyr' i wneud ei waith. Ond roedd hefyd yn gwerthu cyffuriau i bobl ledled de Cymru.
Cafodd Hatim ei arestio a'i gyhuddo o ymwneud â chyflenwi heroin a chrac cocên, meddu ar eiddo troseddol ac o fod â chrac cocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
Plediodd yn euog a chafodd ei garcharu ddydd Gwener, 4 Hydref, am 78 o fisoedd.