Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Luke Wall o Dredelerch, Caerdydd, wedi cael ei garcharu am drais domestig ac wedi cael ei wneud yn destun gorchymyn atal am bum mlynedd.
Plediodd Wall, sy'n 32 oed, yn euog i ddau ymosodiad a achosodd niwed corfforol.
Ymosododd ar gyn-bartner ar ddau achlysur pan oedd hi'n feichiog ym mis Hydref 2023.
Ar yr achlysur cyntaf, cafodd ei tharo ganddo ddwywaith a achosodd iddi daro ei phen yn erbyn pen y gwely.
Ar yr ail achlysur, ceisiodd ei llusgo allan o'r car drwy dynnu ei gwallt, ei tharo, a brathu ei choes gan adael craith.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Molly Thomas, o Heddlu De Cymru:
"Mae Wall yn unigolyn peryglus a threisgar.
"Hoffwn dynnu sylw at ddewrder y dioddefwr a oedd yn feichiog drwy gydol y broses. Rwy'n gobeithio y bydd hi nawr yn gallu byw bywyd heddychlon gyda'i phlentyn bach."
Ddydd Gwener 5 Gorffennaf yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd Wall ei ddedfrydu i 21 mis yn y carchar.
Gall cam-drin domestig effeithio ar unrhyw un ni waeth beth fo'u hethnigrwydd, oed, rhywedd, rhywioldeb, neu gefndir cymdeithasol.
Mae menywod a merched yn dioddef achosion o drais a chamdriniaeth i raddau anghymesur, ac maent yn dioddef mwy dan ddwylo partner, cyn-bartner neu aelod o'r teulu a dieithryn weithiau.
Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod angen help, cysylltwch â ni neu rywun rydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn siarad ag ef, er mwyn i ni allu cymryd camau gweithredu.
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Os nad ydych yn barod i siarad â'r heddlu, gallwch gysylltu â sefydliadau cymorth a all eich helpu. Mae'r manylion ar gael yma: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/cam-drin-domestig/cam-drin-domestig/sefydliadau-cymorth/