Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, ddydd Iau 11 Gorffennaf 2024, rydym yn nodi 29 mlynedd ers yr hil-laddiadau yn Srebrenica, Bosnia-Herzegovina, lle y cafodd 8,327 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd Bosniaidd yn bennaf eu llofruddio yn yr erchyllter gwaethaf yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd.
Yn yr ardal gyntaf erioed a chafodd ei datgan yn ddiogel gan y Cenhedloedd Unedig, cafodd miloedd o bobl eu llofruddio a'u claddu yn systematig mewn torf o feddi ar sail eu hunaniaeth. Lle roedd unwaith ardal llawn cymunedau bywiog ac integredig, cafodd ei rhwygo'n ddarnau gan gasineb ar sail gwahaniaethau hiliol a chrefyddol.
Mae'n bwysig nodi na wnaeth yr hil-laddiadau yn Srebrenica ddigwydd dros nos – mae pob achos o hil-laddiad yn dechrau gydag achosion o elyniaeth, propaganda, camwybodaeth, gormes, ymyleiddio, gwahaniaethu, rhagfarn ac iaith casineb, lle bydd y cyflawnwyr yn defnyddio geiriau i gyfeirio at grŵp nodedig, i'w gwneud yn israddol.
Fel y gwyddom, gall iaith barhau i achosi rhaniadau a gellir eu canfod o hyd yn y DU. Mae trosedd casineb mor berthnasol ag erioed yn ein cymunedau heddiw, felly mae'n rhaid i ni gofio digwyddiadau'r gorffennol er mwyn gweithio i wella'r dyfodol.
I nodi'r bennod dywyll hon yn hanes y byd, ymunodd swyddogion, staff a gwirfoddolwyr â'r Dirprwy Brif Gwnstabl Mark Travis yn y Pencadlys prynhawn heddiw mewn munud o dawelwch.
I ddysgu mwy am yr hil-laddiadau yn Srebrenica, cliciwch yma. Gallwch ddysgu mwy am ein dull o fynd i'r afael â Throseddau Casineb ar ein gwefan.
Yn ystod y cyfnod hwn, rydym hefyd yn talu teyrnged i'r milwyr niferus a gafodd eu hanfon i Bosnia ar ddyletswyddau cadw'r heddwch. Yn yr erthygl hon, rydym yn rhannu profiad y Ditectif Arolygydd Phil Marchant, a oedd ymhlith y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a gafodd eu hanfon i'r wlad fel rhan o Luoedd Amddiffyn y Cenhedloedd Unedig, cyn iddo ymuno â Heddlu De Cymru.