Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wrth i ni ddod at ein gilydd yr wythnos hon i gofio am y digwyddiadau ofnadwy yn Srebrenica, cawn ein hatgoffa hefyd o ddewrder y rhai hynny a gafodd y dasg o amddiffyn y nifer o Fwslemiaid yn Bosnia a oedd yn wynebu risg o hil-laddiad yn ystod blynyddoedd Rhyfel Bosnia.
Yn ystod hydref 1992, anfonwyd miloedd o filwyr o Brydain i Bosnia a Croatia er mwyn cefnogi timau cymorth dyngarol y Cenhedloedd Unedig fel rhan o'r Lluoedd Amddiffyn.
Yn ystod y blynyddoedd yn dilyn hynny, cafodd nifer o filwyr eraill eu hanfon yno i ymgymryd â dyletswyddau sicrhau heddwch. Ymysg y rhai hynny oedd Phillip Marchant, 19 oed, a oedd yn aelod o'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ac a gafodd ei anfon i gilfachau Gorazde ym mis Chwefror 1995.
Ar yr adeg honno, roedd y mwyafrif o'r bobl a oedd yn byw yn Gorazde yn Fwslemiaid o Bosnia ac yn wynebu bygythiadau parhaus gan Luoedd Serbia a oedd yn cyflawni gorchmynion i waredu poblogaeth y Mwslemiaid o'r wlad.
Cyn i Phillip gael ei anfon yno, ymosodwyd ar Gorazde ar sawl achlysur a chafodd y ddinas ei datgan fel un o ‘ardaloedd diogel’ y Cenhedloedd Unedig, fel ei chilfach gerllaw yn Srebrenica.
Ym mis Mai 1995, cafodd yr ardal ei thargedu unwaith eto gan Serbiaid Bosnia, a ddaliodd 33 o aelodau o fataliwn Phillip a'u gwystlo. Dioddefodd Phillip ymosodiad ei hun pan roedd yn gwasanaethu yn y man gwirio, ond llwyddodd i ddianc ar ôl cael gorchymyn i adael y lleoliad.
Parhaodd lluoedd Serbia i geisio hawlio'r dref ond fe'u gwthiwyd yn ôl gan filwyr o'r Ffiwsilwyr Brenhinol, ac yn ddiweddarach gan Luoedd Byddin Bosnia, a ymgymerodd â'r safleoedd a dod â'r symudiad i ben. Yn ystod yr oedi ar yr ymosodiadau ar Gorazde, rhwystrodd lluoedd Serbia yr holl dimau cymorth ac atal Phillip a'i gyd-filwyr rhag cael cymorth gan filwyr, a gafodd hefyd eu hatal rhag gadael yr ardal. Arweiniodd hyn at ymyriad gan NATO, a wnaeth, yn y pen draw, anfon lluoedd cymorth i'r rhanbarth er mwyn rhyddhau'r rhai hynny a oedd wedi'u dal yn yr ardal.
Caiff gweithredoedd aelodau o'r Ffiwsilwyr Brenhinol a Byddin Bosnia eu cofio am achub cilfachau Gorazde rhag dioddef yr un ffawd â Srebrenica, a gafodd, yn drasig, ei hatafaelu gan luoedd Serbia sawl wythnos yn ddiweddaraf, gan arwain at farwolaethau mwy na 8,000 o Fwslemiaid o Fosnia.
Anfonwyd Phillip i Gorazde ar ei daith weithredol gyntaf ac roedd yn brofiad na fyddai fyth yn ei anghofio. Gwasanaethodd yn ddiweddarach yng Ngogledd Iwerddon cyn gadael y lluoedd arfog yn 1998.
Ym mis Hydref 2000, ymunodd Phillip â Heddlu De Cymru ac yn ystod ei yrfa mae wedi gwasanaethu cymunedau Caerdydd a'r Fro fel swyddog ymateb ac mae bellach yn Dditectif Arolygydd.
Yn ystod yr achlysur pwysig hwn, rydym yn talu teyrnged i'r nifer o Fwslemiaid Bosnia a gafodd eu lladd, yn syml, am fod yn nhw eu hunain, ac yn cydnabod y rhai hynny a'u hamddiffynnodd mor ddewr.