Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yr wythnos diwethaf, cymerodd swyddogion gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r defnydd anghyfreithlon a gwrthgymdeithasol o e-feiciau ac achosion o ddwyn beiciau yng nghanol dinas Abertawe fel rhan o Ymgyrch Lathyrus.
Mae'r ymgyrch, a sefydlwyd mewn ymateb i ddigwyddiadau parhaus o ddwyn beiciau a defnydd gwrthgymdeithasol o e-feiciau yng nghanol y ddinas, wedi derbyn sawl cwyn gan aelodau pryderus o'r cyhoedd ynghylch cyflymder e-feiciau o amgylch canol y ddinas.
Ddydd Gwener (12 Gorffennaf), anfonwyd swyddogion i sawl lleoliad o amgylch y ddinas, gyda phabell a stondin marcio beiciau wedi'u gosod yng Ngerddi'r Castell. Rhoddodd y swyddogion addysg a chyngor ar atal troseddau i ddefnyddwyr beic, a defnyddio citiau marcio beic sy'n darparu cod unigryw y gellir ei gofrestru â gwefan Selectamark - https://www.selectamark.co.uk/ – er mwyn rhoi ffordd i'r heddlu adnabod perchennog beic sydd wedi cael ei ddwyn ar unwaith.
Cymerodd swyddogion gamau gorfodi hefyd, ac yn sgil hyn:
Arweiniwyd Lathyrus gan Gwnstabl Gareth Jennings o Dîm Plismona yn y Gymdogaeth Canol y Ddinas, ac roedd yn cynnwys swyddogion a PCSOs eraill.
Bu'r swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth â Cheidwaid Canol y Ddinas a swyddogion Mewnfudo. Cafodd dau unigolyn eu harestio am droseddau mewnfudo hefyd.
Dywedodd PC Jennings:
"Rydym yn ymrwymedig i ymateb i anghenion a phryderon a godwyd gan y gymuned a byddwn yn parhau i chwarae rhan yn tarfu ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a throseddau ar ein strydoedd.”