Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Adrodd, adrodd, adrodd. Dyna’r neges gan heddluoedd de Cymru wrth iddyn nhw lansio eu hymgyrch newydd i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
I Heddlu De Cymru, mae pob adroddiad o bwys ac yn gallu cyfrannu tuag at atebion cymunedol sydd eu hangen i wneud newid cadarnhaol. Mae'r heddlu eisiau helpu pobl i ddeall beth sy'n digwydd ar ôl i adroddiad gael ei wneud a sut mae'r heddlu'n defnyddio'r wybodaeth.
Gyda lansiad ymgyrch newydd ‘Adrodd i Adfer’, mae pobl yn cael eu hannog i riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol, er mwyn dangos sut y gall gyfrannu tuag at ddata trosedd. Yn ei dro, gall y data hwn arwain at atebion cymunedol penodol. Gellir gwneud adroddiad ar-lein, yma.
Nod y prosiect yw mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn uniongyrchol, trwy ymgysylltu cadarnhaol, a hynny tra'n meithrin cysylltiadau cryfach o fewn y gymuned.
Mae pob adroddiad o bwys
Enghraifft ddiweddar o’r gwahaniaeth y gall adrodd ei wneud yw maes parcio ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Tan yn ddiweddar, roedd gan y safle broblem ymddygiad gwrthgymdeithasol, a diolch i’r nifer fawr o adroddiadau a wnaed, cyflwynwyd ateb ymarferol. Arweiniodd hyn at ostyngiad yn nifer yr adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gan ddefnyddio data heddlu o adroddiadau, roedd swyddogion yn gallu adnabod nifer o feysydd parcio ar draws Pen-y-bont ar Ogwr fel mannau â phroblem ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yna ddatblygu datrysiad penodol.
Cysylltodd y Rhingyll Dan Parry o Heddlu De Cymru â chlwb rygbi’r Gweilch i helpu i fynd i’r afael â’r materion parhaus hyn.
Datblygodd Y Gweilch yn y Gymuned, ar y cyd â Heddlu De Cymru a Chymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, brosiect arloesol newydd, ‘TACKLE After Dark’ – menter sy’n gwahodd pobl ifanc i chwarae rygbi cyffwrdd mewn ardaloedd trefol fel meysydd parcio.
Llwyddiant
Y nod oedd i adnabod mannau â phroblem ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda nifer uchel o adroddiadau er mwyn helpu i ymgysylltu â'r bobl ifanc oedd yn ei achosi.
Ers i’r Rhingyll Dan Parry gyflwyno’r fenter, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal wedi gweld gostyngiad o 66% mewn adroddiadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr – ac mae wedi dangos pwysigrwydd riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol i’r heddlu.
Dywedodd Rhingyll Dan Parry:
“Mae’r fenter hon yn dangos pwysigrwydd adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Oherwydd i ymddygiad gwrthgymdeithasol gael ei riportio, rydym wedi gallu rhoi cynllun ar waith – yn yr achos hwn gan weithio gyda Y Gweilch yn y Gymuned – i sicrhau bod y math yma o ymddygiad yn cael ei daclo, ac nad yw pobl ifanc yn cael eu hanghofio a bod ganddynt rywbeth boddhaus i’w wneud â’u hamser.
“O fewn pum wythnos gyntaf y prosiect gyda TACKLE after Dark, dyma nhw’n ymgysylltu â 107 o unigolion. O fewn chwe mis, gostyngodd y nifer o adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, o 172 o alwadau a adroddwyd i 57 o alwadau a adroddwyd.
“Mae pob adroddiad gaiff ei wneud wir o bwys.”
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools:
“Mae ein ceisiadau i Gronfa Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref wedi bod yn hynod lwyddiannus ac mae’r dyraniad o £1miliwn tuag at fentrau diogelwch cymunedol yn gymeradwyaeth i’r gwaith partneriaeth cryf sydd gennym ni yn ne Cymru.
“Rydym wedi gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i adnabod ffactorau sy’n sbarduno problemau lleol, a’r ffordd orau o fynd i’r afael â nhw ar y cyd.
“Gallwn gyflawni llawer mwy trwy gydweithio a dyna pam ei bod mor bwysig i’r rhai sy’n profi ymddygiad gwrthgymdeithasol i adrodd y materion hyn fel y gallwn ganolbwyntio ein hymdrechion a’n hadnoddau lle mae eu hangen fwyaf. Nod Adanbod i Adfer, a ariennir gan Safer Streets, yw i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol fel y gallwn wneud gwahaniaeth cadarnhaol a sicrhau bod ein cymunedau’n fwy diogel i bawb.”
Dyma'r peilot ar gyfer Adrodd i Adfer a caiff mentrau cymunedol eraill eu cynnal ledled de Cymru i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.