Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu am droseddau rhywiol hanesyddol yn erbyn pobl ifanc dan oed, gan gynnwys nifer yn ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Arferai Gavin Corcoran, 44 oed, a oedd yn byw ym Manceinion yn fwyaf diweddar, fyw yn Nhreforys, Abertawe.
Yn 2020, cysylltodd merch 14 oed â'r Heddlu i roi gwybod bod Corcoran wedi ymosod arni'n rhywiol pan oedd yn 10 oed.
Cysylltodd dwy fenyw arall â'r Heddlu wedi hynny i ddatgelu bod Corcoran wedi eu cam-drin yn rhywiol ar sawl achlysur pan oeddent yn blant.
Cafodd Gavin Corcoran ei gyhuddo o'r troseddau uchod yn 2021, a'i gadw yn y ddalfa ar ôl iddo fethu â mynychu ei dreial yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Mae wedi parhau yn y ddalfa ers hynny.
Yn 2022, cysylltodd pedwerydd dioddefwr â Heddlu Manceinion Fwyaf i ddatgelu bod Corcoran wedi ymosod arni'n rhywiol. Cafodd ei gyhuddo o ddwy drosedd arall yn ymwneud â'r dioddefwr hwn. Cynhaliodd Heddlu De Cymru yr achos gan gynnwys y pedwerydd dioddefwr.
Ar 21 Mai 2024, cafwyd Gavin Corcoran yn euog o gyflawni pob un o'r wyth achos o droseddau rhyw yn erbyn plant, yn erbyn y pedwar dioddefwr unigol.
Heddiw, mae wedi cael ei ddedfrydu i 21 mlynedd yn y carchar gyda chyfnod estynedig o bedair blynedd, a bydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sharon Gill-Lewis:
"Mae Gavin Corcoran yn rheibiwr peryglus a achosodd niwed aruthrol i'w ddioddefwyr dan oed. Bu'n cam-drin dros gyfnod o ddau ddegawd, rhwng 1997 a 2018.
"Mae'r achos hwn wedi bod yn anodd iawn ac wedi peri gofid mawr i'r dioddefwyr, wrth i'r treial gael ei gynnal bum gwaith o ganlyniad nifer o ffactorau, gan gynnwys COVID-19 a chanfod pedwerydd dioddefwr.
"Mae'r ddedfryd heddiw yn adlewyrchu proffesiynoldeb, gwaith caled ac ymrwymiad y Ditectif Gwnstabl Eleanor Dallas, a weithiodd yn ddiflino drwy gydol yr ymchwiliad hwn i sicrhau'r cyfiawnder y mae'r dioddefwyr yn ei haeddu. O'r diwedd, maent wedi cael y cyfiawnder hwnnw heddiw."
Gellir dod o hyd i'n canllawiau ar sut i roi gwybod am achos o dreisio, ymosodiad rhywiol neu droseddau rhywiol eraill yma: Sut i roi gwybod am achos o dreisio, ymosodiad rhywiol neu droseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Mae ein gwybodaeth mewn perthynas â chymorth i ddioddefwyr achosion o dreisio ac ymosodiadau rhywiol ar gael yma: Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)