Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Colin Richards, yn Nhrelái, Caerdydd.
Mae Corey Gauci, 18 oed, o Gaerdydd, yn cael ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd bore yfory (Dydd Mawrth 30 Ebrill).
Mae ail ddyn, 26 oed, hefyd o Gaerdydd, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar gyfer y mater hwn ond wedi cael ei alw yn ôl i'r carchar am dorri amodau ei drwydded.
Mae swyddogion cyswllt â theuluoedd arbenigol wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau teulu Colin Richards ac yn parhau i'w cefnogi. Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Mr Richards.
Hoffai Heddlu De Cymru ddiolch i Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, Heddlu Swydd Warwick, a Heddlu Swydd Stafford am eu cefnogaeth ac i aelodau'r cyhoedd am eu cymorth yn ystod yr ymchwiliad parhaus hwn.
Cafodd Mr Richards, 48 oed, ei ganfod yn anymwybodol ar Snowden Road, Trelái, yn dilyn adroddiad am aflonyddwch yn ardal Heol-y-Berllan a Heol Trelái yng Nghaerau ychydig cyn 11.30pm nos Sul, 7 Ebrill.
Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys, bu farw'r tad i saith o ganlyniad i glwyf trywanu angheuol.
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd fideo i Heddlu De Cymru ar-lein yma:https://mipp.police.uk/operation/62SWP24B87-PO1
Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod: 2400112146.
· Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
· Ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
· E-bostio [email protected]
· Ffonio 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.