Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Daniel Kiddier, 36 oed, wedi cael gorchymyn atal amhenodol a dedfryd o bum mlynedd a thri mis yn y carchar ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog am 12 o droseddau.
Cafodd Kiddier, o Heol Newydd, Porthcawl, ei ddedfrydu heddiw yn Llys y Goron Caerdydd. Fe'i cafwyd yn euog yn flaenorol mewn treial yn Llys y Goron Casnewydd yn gynharach y mis hwn am 12 achos o ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol, ac am un achos o ymosod gan achosi niwed corfforol gwirioneddol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Tyler Rowland: "Mae Daniel Kiddier wedi cael ei ddedfrydu heddiw am 12 o droseddau cam-drin domestig.
"Hoffwn ddiolch i'r dioddefwr yn yr achos hwn am ei ddewrder yn rhoi gwybod i ni am y digwyddiadau hyn, ac am fynd drwy'r broses farnwrol.
“Mae dioddef o ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol yn cael effaith enfawr ar y dioddefwr, yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol.
"Mae Daniel Kiddier bellach wedi cael ei ddedfrydu i fwy na phum mlynedd yn y carchar, ynghyd â chael gorchymyn atal amhenodol. Croesawaf y ddedfryd hon, sy'n dangos y caiff cam-drin domestig ei gymryd o ddifrif, nid yn unig Heddlu De Cymru, ond gan y llysoedd hefyd.
"Byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin domestig o unrhyw fath i gamu ymlaen a rhoi gwybod i ni, neu gysylltu'n ddienw â Crimestoppers."
Mae cam-drin domestig yn effeithio ar bobl o bob cefndir ac mewn llawer o wahanol ffyrdd. Drwy'r ddolen isod, gallwch ddarganfod yr hyn sy’n cael ei gyfrif fel camdrin domestig, sut i roi gwybod amdano a sut, o dan Gyfraith Clare, y gallwch ddarganfod a oes gan eich partner hanes o drais neu gam-drin domestig.