Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi uchelgais newydd er mwyn helpu i sicrhau bod y sefydliad yn chwarae ei ran yn nharged Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Cofnododd Cyfrifiad 2021 fod 17.8% o'r boblogaeth genedlaethol yn siarad Cymraeg, a'n huchelgais yw cynrychioli'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Felly, rydym wedi gosod targed i ni ein hunain i sicrhau bod 18% o'n sefydliad yn siarad Cymraeg ar lefel 3 neu uwch erbyn 2028. Byddai hyn yn gyfystyr â 1143 o siaradwyr, sydd 298 yn fwy na'r nifer presennol.
Mae gennym hefyd uchelgais tymor hwy erbyn 2050 i gynyddu ein poblogaeth weithiol sy'n siarad Cymraeg ar lefel 3 ac uwch i 30% (1845) drwy gyfuniad o'n hyfforddiant iaith mewnol a thrwy recriwtio ar gyfer swyddi lle rydym wedi dynodi bod y Gymraeg yn hanfodol (rydym hefyd yn ymwybodol o'r nifer cynyddol o fyfyrwyr Cymraeg sy'n dod o'n hysgolion cyfrwng Cymraeg).
Wrth amlinellu'r uchelgais o Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru Jeremy Vaughan:
“Rwy'n angerddol dros ein gweledigaeth o fod yn wasanaeth heddlu gwirioneddol ddwyieithog.
“Mae ein safonau Cymraeg wedi bod wrth wraidd y sefydliad ers peth amser ac wedi dod yn rhan o'n busnes dyddiol.
“Rydym wedi gwneud cynnydd cadarnhaol iawn, a dwi'n angerddol dros y camau nesaf y byddwn yn eu cymryd ar y daith hon.
“Yn ogystal â darparu gwasanaeth plismona Cymraeg a Saesneg i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, rwyf am weld mwy o ddefnydd o'r Gymraeg yn yr Heddlu ac i'r Gymraeg ddod yn rhan o'n diwylliant sefydliadol fel un o wasanaethau cyhoeddus allweddol Cymru.
“Drwy ein cymorth a'n hyfforddiant Cymraeg, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y cydweithwyr sydd bellach yn siaradwyr Cymraeg hyderus ac yn frwd dros ddysgu'r iaith.”
“Pan lansiwyd ein polisi Iaith Gymraeg yn 2017 roedd peth pryder y byddai adlach yn erbyn y gofynion ychwanegol ar ymuno â Heddlu De Cymru neu ar ddyrchafiad. Fodd bynnag, rwyf wedi gweld yn hollol i’r gwrthwyneb gyda’n darpariaeth dysgu Cymraeg a hyfforddiant yn orlawn lawer o’r amser
“Rydym hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y recriwtiaid newydd sy’n siarad Cymraeg.
“Mae pobl wir wedi cofleidio’r newid, ond mae cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn busnes bob dydd yn parhau i fod yn eithriad yn hytrach na’r rheol. Rydyn ni eisiau i hyn newid.”
“Rydym hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y recriwtiaid newydd sy'n siarad Cymraeg.
“Fodd bynnag, mae cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn busnes bob dydd yn parhau i fod yn eithriad yn hytrach na'r rheol. Dwi am i hyn newid.”
Oherwydd y gwaith rhagweithiol a'r polisïau sydd wedi'u mabwysiadu yn Heddlu De Cymru, rydym wedi gweld nifer y bobl yn ein sefydliad sy'n meddu ar sgiliau Cymraeg yn cynyddu o 3191 yn 2018 i 6149 erbyn 2024 (gyda 4592 yn meddu ar sgiliau sylfaenol Cymraeg lefel 2 ac uwch).
Aeth y Prif Gwnstabl Vaughan ymlaen i ddweud:
“Rwyf hefyd am sicrhau bod y cydweithwyr sy'n dymuno defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn gallu gwneud hynny'n hawdd a bod defnyddio'r Gymraeg yn cael ei normaleiddio yn ein sefydliad.
“Bydd hyn yn heriol am fod ein gwasanaeth yn dibynnu'n fawr ar jargon plismona sy'n newid yn barhaus ac sydd, yn anochel, yn cael ei ddatblygu yn Saesneg.
“Ond er mwyn i ni wneud cynnydd, mae angen i ni barhau i wthio a gweithio gyda heddluoedd eraill yng Nghymru a sefydliadau partner o fewn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a’r Coleg Plismona er mwyn torri tir newydd.”
Mae'r Prif Gwnstabl Vaughan yn glir bod angen cefnogaeth y cyhoedd er mwyn helpu i gyflawni'r uchelgais hwn:
“Byddwn yn annog aelodau o'r cyhoedd sydd am gael gwasanaeth Cymraeg i arfer eu hawl i gael y gwasanaeth hwn.
“Rydym bob amser yn awyddus i wybod lle rydym yn gwneud yn dda a lle y gallwn wella ein gwasanaethau Cymraeg.
“Rwyf hefyd yn awyddus i siaradwyr Cymraeg neu'r rhai sy'n dysgu Cymraeg sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes plismona wneud cais ar gyfer rolau a'n helpu i ddatblygu ein sefydliad.
“Rydym yn chwilio am siaradwyr Cymraeg nid yn unig i lenwi ein rolau plismona gweithredol ond hefyd rolau fel swyddogion trin galwadau, cyfreithwyr a rolau ym maes adnoddau dynol, cyllid a llawer o feysydd eraill."
I gloi, dywedodd y Prif Gwnstabl Vaughan:
“Rwy'n falch iawn o allu lansio'r uchelgais newydd hwn yn yr Eisteddfod yn ardal ein heddlu. Mae'r gefnogaeth a'r diddordeb rydym wedi'u gweld yn ystod y digwyddiad hwn yn adlewyrchu'r angerdd a'r ewyllys da tuag at y Gymraeg sy'n bodoli yn ein cymunedau yn ne Cymru.
“Rwy'n credu ei bod yn bwysig edrych yn hyderus i'r dyfodol a gwthio ein hunain i chwarae ein rhan er budd y Gymraeg ac i wneud popeth o fewn ein gallu i'w hymgorffori a normaleiddio'r defnydd ohoni yn Heddlu De Cymru."