Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ein gweledigaeth ydi bod yn wasanaeth yr heddlu sy’n gwbl ddwyieithog.
Rydym am arwain drwy esiampl ac annog staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol, a chreu mwy o gyfleoedd i weld, clywed a defnyddio’r Gymraeg wrth weithredu ein busnes.
Yn sail i’n gweledigaeth mae gweithlu brwd iawn sy’n awyddus i ddysgu a defnyddio ei sgiliau newydd i ddarparu gwell gwasanaeth plismona i’r cyhoedd.
Rydym yn annog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu i roi adborth. Rydym yn hapus i glywed adborth cadarnhaol am ein cynnydd, ond mae diddordeb gennym hefyd i dderbyn adborth am y meysydd sydd angen i ni eu gwella.
Disodlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac, yng Nghymru, fel rhan o’r ddeddfwriaeth newydd, mae gan y Gymraeg statws cyfreithiol cyfartal â’r Saesneg ac ni ddylid ei thrin yn llai ffafriol. Nid oes angen i gyrff cyhoeddus ddatblygu Cynlluniau Iaith Gymraeg na’u rhoi ar waith mwyach ond yn lle hynny, rhaid iddynt gydymffurfio â chyfres o Safonau Cymraeg cenedlaethol.
Diben Safonau’r Gymraeg yw cynyddu a normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg fel y gall siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith ym mhob rhan o’u bywydau.
Mae’r dyletswyddau sy’n deillio o’r safonau yn golygu na fyddwn yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi Hysbysiad Cydymffurfio sy’n nodi pa rai o’r 153 o safonau yn y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i Heddlu De Cymru, ynghyd ag unrhyw eithriadau a’u dyddiadau gweithredu.
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd ei gyfrifoldebau tuag at gymunedau dwyieithog a Chymraeg eu hiaith o ddifrif. Fel rhan o’n gwaith cynllunio dwyieithog, rydym yn mynd ati i wella’r gwasanaeth a roddwn i aelodau’r cyhoedd sydd am gysylltu â ni yn Gymraeg.
Mae Heddlu De Cymru yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Caiff unrhyw ohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg ei hateb yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi wrth ymateb.
Mae gennym Hyrwyddwyr yr Iaith Gymraeg sy’n gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth, cyngor, arweiniad a chymorth i’r Heddlu mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Gan nad yw pob aelod o’n staff yn gallu siarad Cymraeg nac ysgrifennu yn Gymraeg yn rhugl, mae trefniadau ar waith i ddarparu cymorth hyfforddi yn ogystal â chyrsiau Cymraeg. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod dogfennau neu wybodaeth i’r cyhoedd a lunnir gan Heddlu De Cymru ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r Hysbysiad Cydymffurfio a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, rhoddwyd strwythur llywodraethu diwygiedig ar waith. Mae’r trefniadau llywodraethu newydd i ategu’r broses o roi Safonau’r Gymraeg ar waith yn cynnwys Bwrdd Strategol a gefnogir gan Weithgor tactegol. Mae cynllun prosiect sy’n olrhain ac yn cofnodi cynnydd yn erbyn pob un o’r safonau yn sail i’r strwythur llywodraethu.
Yn ogystal, datblygwyd Canllawiau a Gweithdrefn Iaith Gymraeg at ddiben defnyddio’r Gymraeg yn fewnol a hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r iaith.
Nod Heddlu De Cymru yw cydymffurfio â’r gofyniad deddfwriaethol i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, a hefyd i gynnig dewis iaith a chwrteisi ieithyddol fel mater o drefn i bawb sy’n cysylltu â ni ac, yn ogystal, fel iaith fusnes fewnol i’n haelodau o staff sy’n siarad Cymraeg.
Mae Safonau’r Gymraeg yn gosod dyletswyddau penodol ar yr Heddlu i gynnig dewis iaith i’r cyhoedd ac i aelodau o staff ac i hwyluso’r dewis hwnnw. Mae hefyd yn ofynnol i Heddlu De Cymru gynnig a darparu hyfforddiant iaith er mwyn helpu ei staff i feithrin eu sgiliau Cymraeg.
Mae’n hanfodol bod pob unigolyn yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau ieithyddol priodol er mwyn ymgysylltu’n effeithiol â siaradwyr Cymraeg a darparu gwasanaeth llawn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rhoddwyd sylw i wella gallu dwyieithog yr Heddlu ac i sicrhau y gall aelodau o staff o leiaf ddangos cwrteisi ieithyddol yn y Gymraeg. O ganlyniad, caiff Polisi Sgiliau Cymraeg ei ddatblygu er mwyn cefnogi’r uchelgais hwn.
Os ydych chi'n anhapus gyda'r gwasanaeth Cymraeg, cliciwch gallwch chi gwyno.