Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
O fyd plismona i'r cae pêl-droed... cafodd dau o'n cydweithwyr eu dewis i fod yn ddyfarnwyr cynorthwyol yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa.
Gwnaeth John Bryant, swyddog risg a datrys digwyddiadau yn ein hystafell reoli (Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus), sydd yn y llun ar y chwith gyda'i ffrind agos a chyd-swyddog gêm, Lewiss Edwards, PC ymatebol ym Merthyr Tudful, redeg y llinell mewn gêm yn Cyprus.
Gwnaethant ddyfarnu yn ystod buddugoliaeth ail-gymal 1-0 APOEL Nicosia dros Dila Gori.
Roedd y gêm yn un o'r rhai diweddaraf mewn cyfres o gemau yn Ewrop – a thu hwnt – y mae John a Lewiss wedi cymryd rhan ynddynt. Mae'r ddau wedi bod yn dyfarnu gyda'i gilydd ers tua 13 mlynedd, gan gymryd rhan mewn gemau rheolaidd yn system Cynghrair Cymru pan nad ydynt ar ddyletswydd yn eu swyddi llawn amser gyda'r heddlu.
Dywedodd Lewiss: "Roedd y cyfle i gynrychioli ein gwlad dramor yn brofiad anhygoel arall, ac roedd yr awyrgylch yn wych gyda mwy na 12,000 o gefnogwyr yn Nicosia.
"Hoffai John a minnau ddiolch i'n harolygwyr a'n penaethiaid am ddeall ein hymrwymiadau ac am ganiatáu i ni achub ar y cyfle hwn ochr yn ochr â'n swyddi o ddydd i ddydd – mae'n gwneud i ni deimlo ein bod yn wir yn cael ein gwerthfawrogi yn ein rolau!"
Mae John wedi siarad â ni o'r blaen am ei waith dyfarnu, fel rhan o'n cyfres #PoblHDC.
Eglurodd: “O ran fy ngwaith, mae pob galwad yn cyflwyno her wahanol. Ac yna, pan fydda i ar y system radio fel swyddog neilltuo swyddogion, mae pob digwyddiad yn cyflwyno her wahanol.
“Ond mae fy ngwaith dyfarnu wedi helpu i roi syniad gwell i mi o ran sut y galla i ddelio â sefyllfaoedd anodd neu lle mae angen i mi ymateb yn gyflym i agweddau penodol ar y swydd.”