Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menter i hybu perchnogaeth cŵn diogel a chyfrifol wedi cael ei lansio ym Morgannwg Ganol.
Mae prosiect LEAD (Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Leol ar Gŵn), a arweinir gan Heddlu De Cymru ar y cyd â sawl asiantaeth partner gan gynnwys awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, wedi cael ei ddylunio i wella'r ymgysylltiad â pherchnogion cŵn o bob brîd.
Nod y broses ragweithiol yw lleihau'r risg sydd wedi codi mewn cymunedau drwy berchnogaeth cŵn anghyfrifol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, drwy ymgysylltu, addysg ac ymyrraeth gynnar.
Bydd LEAD yn galluogi partneriaid i rannu cudd-wybodaeth ac i roi amrywiaeth o fesurau ar waith megis llythyrau rhybudd, contractau ymddygiad derbyniol ac yn y pen draw, camau gorfodi os bydd hynny'n briodol.
Dywedodd yr Arolygydd Jon Duckham:
"Mae nifer o achosion trasig o ymosodiadau cŵn wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys rhai yma yng Nghymru, sydd wedi arwain at ymwybyddiaeth uwch o ymosodiadau cŵn a'r angen i berchnogion fod yn hyddysg a chyfrifol.
"Bydd y fenter hon yn ein galluogi ni, ynghyd â'n partneriaid, i weithio gyda'n cymunedau i wella'r addysg honno yn y gobaith y byddwn yn atal ymosodiadau cŵn sy'n gallu bod yn gwbl ddinistriol i bawb dan sylw.
"Daw perchnogaeth cŵn â chyfrifoldebau, a gall y rheini nad ydynt yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif gael effaith hynod ddifrifol ar les eu hanifail anwes a pheri risg wirioneddol i'r gymuned.
"Rydym yn gobeithio y bydd cyflwyno cynllun LEAD yn anfon neges glir ein bod ni a'n partneriaid wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu'r cyhoedd ac i sicrhau y caiff camau gorfodi eu cymryd yn erbyn perchnogion anghyfrifol nad ydynt yn ymgysylltu ag ymyriad gan bartneriaid."
Lansiwyd menter LEAD heddiw (4 Rhagfyr), a chaiff ei threialu ym mwrdeistrefi sirol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, gyda'r nod o gyflwyno'r cynllun ledled De Cymru maes o law.
Mwy o wybodaeth am berchnogaeth cŵn cyfrifol a deddfwriaeth bwysig.