Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cynghorir gyrwyr danfon nwyddau sy'n gweithredu o amgylch Caerdydd a Bro Morgannwg i fod yn wyliadwrus ar ôl achosion diweddar o ddwyn.
Yr wythnos diwethaf, cafodd faniau eu dwyn o Ty'n y Parc Grove, Rhiwbeina a Broad Street yn y Barri.
Ar y ddau achlysur, roedd yr allweddi wedi'u gadael yn y cerbydau wrth i'r gyrrwr ddanfon nwyddau.
Dyma'r achosion diweddaraf o ddwyn sydd wedi digwydd yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Fis diwethaf, cafodd tair fan eu dwyn yn y Barri a Chaerau ac ym mis Hydref, cafodd dau gerbyd danfon nwyddau eu dwyn yn Trowbridge ac yn Nhremorfa pan adawyd yr allweddi yn y cerbydau.
Cadwch lygad am yrwyr danfon nwyddau lleol a rhowch wybod i'r heddlu am ymddygiad amheus cyn gynted â phosibl.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Gellir dod o hyd i awgrymiadau ar gyfer gyrwyr danfon nwyddau a chwmnïau danfon nwyddau ar sut i atal achosion o ddwyn o gerbyd o'r fath, neu achosion o ddwyn y cerbydau eu hunain, ar ein gwefan.