Gyda siopa ar-lein ar gynnydd, mae mwy o gerbydau danfon nwyddau ar ein ffyrdd. Dyma rai awgrymiadau i yrwyr danfon nwyddau a chwmnïau danfon nwyddau ar sut i atal nwyddau neu’r cerbyd ei hun rhag cael eu dwyn.
Gyrwyr danfon nwyddau
- Sicrhewch fod ffenestri eich cerbyd ar gau a bod y drysau wedi’u cloi pan fyddwch yn gadael eich cerbyd.
- Gall rhai troseddwyr ddefnyddio dyfeisiau i rwystro’r signal o ffob allwedd, felly gwiriwch eich drysau ddwywaith. Os oes gennych fan heb allwedd, ystyriwch fuddsoddi mewn rhwystrwr signal.
- Parciwch o dan olau stryd os yn bosibl ac osgoi ardaloedd sydd heb eu goleuo’n dda. Ystyriwch ddefnyddio tortsh i oleuo ardaloedd tywyll megis lonydd cefn neu lwybrau tywyll.
- Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw eitemau gwerthfawr yn y golwg pan fyddwch yn gadael eich fan, waeth pa mor hir y byddwch allan o’r cerbyd.
- Gwnewch yn siŵr fod eich ffôn symudol (gwaith neu ffôn personol) wedi’i wefru’n llawn rhag ofn y bydd angen i chi ffonio rhywun.
Os gwelwch rywbeth amheus, megis cerbyd arall yn eich dilyn, peidiwch â mynd allan o’ch fan. Parhewch i yrru nes ei bod yn ddiogel i chi stopio a ffoniwch eich cyflogwr neu’r heddlu ar 101.
Cwmnïau danfon nwyddau
- Ystyriwch osod larwm diogelwch neu gamera ar y fan os nad oes ganddi un yn barod. Gall y rhain fod yn ataliad ond hefyd helpu i nodi a yw eich cerbyd yn cael ei dargedu.
- Ystyriwch osod traciwr ar y cerbyd, felly os bydd y gwaethaf yn digwydd byddwch yn gallu gweld i ble mae wedi mynd.
- Os oes gan eich cerbydau ffenestri cefn neu fodd i weld i mewn i’r cefn, ystyriwch eu tywyllu fel na ellir gweld trwyddynt.