Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd cynnydd mewn presenoldeb plismona yng nghanol dinas Abertawe, yng Nghastell-nedd ac ym Mhort Talbot er mwyn helpu pobl i deimlo'n ddiogel wrth fwynhau pryd o fwyd neu ddiod Nadoligaidd. Bydd ymgyrch Advent dros gyfnod y Nadolig yn digwydd bob nos Fercher, Gwener a Sadwrn tan Nos Galan.
Dywedodd y Prif Arolygydd James Ratti:
"Yn ystod y blynyddoedd blaenorol, mae cynnydd wedi bod yn nifer yr ymwelwyr yn economi liw nos Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot wrth i bobl ymweld â chanol ein trefi a dinasoedd dros gyfnod y Nadolig. Bydd ein swyddogion heddlu yn mynd ar batrolau gwelededd uchel gyda chefnogaeth gan ein partneriaid, sy'n cynnwys staff drysau, marsialiaid tacsi, Y Samariaid a Man Cymorth y cyd-economi Liw Nos a fydd yn ymgysylltu â'r cyhoedd i atal trosedd ac anhrefn, a thynnu sylw at bwysigrwydd cadw eich hunain yn ddiogel."
Cofiwch barchu pobl eraill – gan gynnwys y rheini a fydd yn gweithio ar eich rhan i gadw pobl yn ddiogel.
Bydd swyddogion heddlu arbenigol hefyd ar batrôl yng nghanol dinas Abertawe i roi tawelwch meddwl i ddathlwyr y Nadolig drwy gynnal ymgyrchoedd agored i nodi unrhyw un sy'n ymddwyn yn rheibus, a chymryd camau gweithredu i ymyrryd fel rhan o Ymgyrch Ferndown.
Bydd yr ymgyrch hon yn digwydd bob nos Fercher a Sadwrn yn ystod yr economi liw nos i atal digwyddiadau rhag datblygu yn gynnar.
Dywedodd y Prif Arolygydd James Ratti:
"Yn dilyn llwyddiant gweithrediadau blaenorol y swyddogion, bydd yr ymgyrch hon yn adeiladu ar fentrau o fewn canol dinas Abertawe i gadw pobl yn ddiogel ac i sicrhau y gall unrhyw un sy'n ymweld â chanol y ddinas wneud hynny heb ofni cael sylw digroeso. Hoffwn roi tawelwch meddwl drwy nodi bod y tebygolrwydd o ddioddef unrhyw fath o ymosodiad, boed yn un corfforol neu rywiol, yn isel iawn. Fodd bynnag, nid yw hynny'n cyfyngu ar y niwed a wneir pan fydd troseddau o'r math yn digwydd."
"Bydd ein swyddogion yn gweithio'n agos â'r staff drws i roi arweiniad ar sut i adnabod ymddygiad rheibus, a byddwn yn annog pobl i roi gwybod i'r heddlu neu staff drws am unrhyw ymddygiad sy'n achosi pryder."