Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ein cydweithwyr yn ein hystafell reoli yn gweithio bob awr o'r dydd a'r nos i ateb galwadau'r cyhoedd ac achosion o gysylltu ar-lein i gael cymorth Mewn argyfwng, mae gallu siarad ag un o’r tîm yn gyflym yn gallu golygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.
Rydym yn gweithio'n galed i addysgu'r cyhoedd ar y defnydd cywir o'r rhif 101 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys a'r rhif 999 mewn argyfwng, a'r hyn sy'n gyfystyr â mater i'r heddlu, i sicrhau bod llinellau yn rhydd i'r rhai sydd â'r angen mwyaf.
Yn ogystal â lleihau'r galw a sicrhau bod y cyhoedd yn gallu ein cyrraedd pan fo angen, mae'r gwaith hwn hefyd yn sicrhau bod pobl yn cyrraedd y sefydliad sydd ei angen arnynt yn gynt o lawer.
Byddwn hefyd yn cymryd camau yn erbyn y rhai sy’n camddefnyddio’r gwasanaeth yn barhaus neu’n fwriadol ac a allai roi bywydau eraill mewn perygl.
Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf yn unig, yn dilyn ymdrechion ymyrryd gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus a thimau Diogelwch Cymunedol lleol, cafodd dyn ei erlyn, ei ddirwyo a chafodd orchymyn cymunedol o 12 mis ar ôl gwneud nifer o alwadau ffug i’r heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans.
Yn ogystal, cafodd Gorchymyn Ymddygiad Troseddol o ddwy flynedd, yn ei wahardd rhag cysylltu ag unrhyw wasanaeth brys drwy unrhyw ddulliau cyswllt, ac eithrio mewn sefyllfa o argyfwng gwirioneddol.
Mae ceisiadau am Orchmynion Ymddygiad Troseddol pellach ar gyfer unigolion eraill hefyd wedi’u cyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron, ac mae menyw arall wedi cael Hysbysiad Gwarchod y Gymuned o ganlyniad i nifer y galwadau y mae wedi’u gwneud yn feddw.
Pwysleisiodd Rob Blunt, Arolygydd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, mai dim ond pan fetho popeth arall y cymerir camau mor llym â hyn, ond bod angen hyn er mwyn diogelu’r cyhoedd ehangach.
Dywedodd yr Arolygydd Blunt:
“Rydym yn wasanaeth sy'n gweithio 24/7 ac rydym yn falch o fod yma i helpu’r rhai sydd ein hangen ni, pan maen nhw ein hangen ni. Yn anffodus, er gwaethaf yr holl waith i addysgu’r cyhoedd am risgiau camddefnyddio 999 a 101, rydym yn parhau i gael nifer o bobl sy’n ein ffonio’n aml heb unrhyw reswm dilys.
“Rydym yn deall y gall ffactorau eraill, megis pryderon iechyd meddwl, chwarae rhan fawr yn aml ac rydym yn gweithio’n agos gydag asiantaethau partner ac arbenigwyr i geisio ymyrryd cyn i’r sefyllfa waethygu i’r pwynt hwn.
“Mae ein timau hefyd wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol â'r unigolion dan sylw, yn ogystal ag aelodau o’u teulu, gwasanaethau cymdeithasol a gweithwyr meddygol proffesiynol, i egluro’r canlyniadau posibl.
“Ond pan fydd unigolion yn gwrthod cydweithredu a deall difrifoldeb eu gweithredoedd, does dim dewis gennym ond gweithredu.”