Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi llwyddo i sicrhau Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn erbyn dyn o'r Barri am wneud galwadau dianghenraid a niwsans i'r gwasanaethau brys dros gyfnod o 12 mis.
Mae Vincent Enos wedi cael Gorchymyn Ymddygiad Troseddol o ddwy flynedd gan Lys Ynadon Caerdydd er mwyn diogelu aelodau'r gwasanaethau brys rhag y galwadau dianghenraid hyn.
Cafodd y Gorchymyn Ymddygiad Troseddol ar ôl cael ei euogfarnu ar 17 Mai 2023 am ddefnyddio rhwydwaith cyfathrebu cyhoeddus yn barhaus i achosi aflonyddwch / anghyfleustra / pryder.
Mae Enos wedi gwneud mwy na 250 o alwadau i'r gwasanaethau brys yn honni weithiau fod pobl wedi marw, yn sâl neu'n cael eu cam-drin.
Pan anfonwyd swyddogion yr heddlu a pharafeddygon i'r lleoliadau, nid oedd unrhyw ddigwyddiadau o'r fath. Defnyddiwyd ambiwlans awyr mewn ymateb i un o'r galwadau.
Cost amcangyfrifedig y galwadau ffug i'r gwasanaeth ambiwlans oedd £5,000.
Amcangyfrifir hefyd fod swyddogion derbyn galwadau'r heddlu wedi treulio cyfanswm o 28 awr, 2 funud a 15 eiliad yn ymdrin â'i alwadau.
Cafwyd Enos yn euog yn y llys a rhoddwyd gorchymyn cymunedol o 12 mis iddo a dirwy o £338, a gorchmynnwyd iddo dalu £114 o ordal dioddefwyr ac £85 o gostau'r llys.
Rhoddwyd Gorchymyn Ymddygiad Troseddol iddo hefyd sy'n gwahardd y dyn 54 oed rhag cysylltu ag unrhyw wasanaeth brys, drwy rifau gwasanaethau brys 999 a 101, neu drwy e-bost, neges destun neu unrhyw ddull arall, ac eithrio mewn argyfwng gwirioneddol, ac ni chaiff ysgogi, annog na chyfarwyddo unrhyw berson eraill i wneud hynny.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Adrian Muscat, Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o Heddlu De Cymru: “Peryglodd gweithredoedd Vincent Enos iechyd a diogelwch aelodau eraill o'r cyhoedd am fod y gwasanaethau brys yn brysur yn delio gyda galwadau dianghenraid parhaus.
“Nid yw'r Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn atal Mr Enos rhag ffonio'r gwasanaethau brys pan fo argyfwng gwirioneddol.
“Gobeithiwn y bydd y Gorchymyn Ymddygiad Troseddol a roddwyd iddo yn rhybudd i bobl eraill y byddwn – gyda'n partneriaid – yn defnyddio holl rym y gyfraith i ddiogelu aelodau'r gwasanaethau brys a'r cyhoedd pan fo pobl yn euog o wastraffu amser y gwasanaethau brys.”
Mae torri Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn drosedd y gellir arestio'r derbynnydd amdani ac os canfyddir ei fod yn euog, gellir ei ddirwyo, ei ddedfrydu i'r carchar neu'r ddau.