Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad traffig ffordd ar yr A465 ger Resolfen tua 7pm nos Wener 8 Medi wedi cael ei enwi fel Jonathan Davies, 32 oed o Gastell-nedd.
Mae teulu Jonathan Davies, a alwyd yn ‘Archie’ gan ei ffrindiau, wedi talu'r deyrnged ganlynol:
Jonathan oedd mab annwyl Carole, a'i ddiweddar dad, Allan (Tojo). Roedd yn ŵyr annwyl i'r diweddar Hilda ac yn nai i'r diweddar Keith, ac i Terry, Ann, Peter a Malvern. Bydd ei holl gefndryd a'i gyfnitherod a'i ffrindiau lu yn ei golli'n fawr.
Cafodd Jonathan ei fagu yng Nghastell-nedd ac roedd yn golffiwr brwdfrydig o oedran ifanc. Enillodd Uwch-bencampwriaeth Clwb Golff Castell-nedd pan oedd yn 15 oed. Roedd Jonathan wedi meithrin rhwydwaith cadarn o ffrindiau yng Nghastell-nedd ac yng Nglyn-nedd drwy ei gariad at golff a rygbi. Roedd gan bawb a oedd wedi ei gyfarfod ac a oedd yn ei adnabod feddwl mawr ohono.
Roedd Jonathan wrth ei fodd yng nghwmni eraill a bydd llawer yn gweld ei eisiau'n fawr. Mae ei deulu'n ddiolchgar am yr holl negeseuon caredig a chefnogol a gawsant gan ffrindiau Jonathan. Mae gan bawb a oedd yn ei adnabod stori ddoniol i'w rhannu am amser y gwnaethant ei dreulio gydag ef. Roedd yn ddyn caredig ac roedd ganddo amser i'w ffrindiau bob amser.
Mae'r newyddion trist wedi ein synnu a'n llorio, a gofynnwn am breifatrwydd ar yr adeg hon i geisio dod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd. Roedd gan lawer o bobl feddwl mawr o Jonathan a bydd colled fawr ar ei ôl.“
Mae Heddlu De Cymru wrthi'n apelio am dystion i'r gwrthdrawiad a gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2300304093.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Neu 📞Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111