Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn falch o gynrychioli a diogelu'r holl gymunedau y mae'n eu gwasanaethu.
Rydym yn ymwybodol o bryderon ynglŷn â delio mewn cyffuriau a thrais cysylltiedig yn Butetown. Mae mynd i'r afael â'r pryderon hyn yn flaenoriaeth i ni.
Rydym yn defnyddio swyddogion mewn dillad plaen yn rheolaidd o'n Timau Ymgyrch Sceptre a Throseddau Cyfundrefnol i gasglu cudd-wybodaeth ac adnabod troseddwyr. Yn ogystal â'r patrolau hyn, cynhelir patrolau amlwg iawn gan Blismyn yn y Gymdogaeth a Swyddogion Ymateb.
Ar y dudalen nesaf mae rhai enghreifftiau diweddar o weithredu cadarnhaol a sut rydym yn gweithio’n galed i gadw Butetown a’r gymuned ehangach yn ddiogel:
Yn ogystal â'r enghreifftiau lleol, mae arfau, a gwerth miliynau o bunnoedd o gyffuriau ac arian wedi cael eu hatafaelu dros y 12 mis diwethaf gan un o dimau arbenigol Heddlu De Cymru, wedi'i lleoli yma yng Nghaerdydd.
Rhwng mis Ebrill 2022 – mis Ebrill 2023, mae Tîm Ymgyrch Sceptre yng Nghaerdydd wedi:
Mae ymateb y gymdogaeth, ymgyrchoedd arbenigol, a thimau eraill yr heddlu yn ategu gwaith Tîm Ymgyrch Sceptre.
Bydd Heddlu De Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei allu i gadw cymunedau'n ddiogel a sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel wrth iddynt fyw eu bywydau pob dydd.
Dydd Iau 20 Ebrill, 3.45pm. Christina Street.
Swyddogion yn tarfu ar achos posib o gyfnewid cyffuriau. Daethpwyd o hyd i'r cerbyd, a oedd yn defnyddio platiau ffug, ar ôl iddo ffoi a'i ganfod yn Christina Street a chafodd y gyrrwr ei arestio ar ôl i'r swyddogion redeg ar ei ôl. Roedd yr eitemau a atafaelwyd yn cynnwys arian ffug ac iPad wedi'i ddwyn.
Dydd Gwener, 21 Ebrill. 4.45pm. Hannah Street.
Ceisiodd y drwgdybiedig ffoi ymaith o'r swyddogion a cheisio cuddio 36 lapiad o grac cocên. Cafodd ei arestio a chafodd ei gartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei chwilio, lle daeth swyddogion o hyd i chwistrell pupur a chlorian pwyso. Mae'r bachgen 17 oed ar fechnïaeth tra bod ymholiadau gydag amod i beidio â mynd i mewn i Gaerdydd.
Dydd Sul, 23 Ebrill, 2pm. Stryd y Gogledd.
Daethpwyd o hyd i chwarter cilo o gocên mewn car a thua £2k mewn arian parod yng nghartref y gyrrwr ar Heol Penarth. Mae dyn 32 oed o Gaerdydd wedi cael ei gyhuddo o droseddau yn ymwneud â chyffuriau ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.
Dydd Gwener, 28 Ebrill. 6.49am. Christina Street.
Daethpwyd o hyd i 25 gram o gocên yn ystod gwarant chwilio am gyffuriau mewn eiddo. Cyhuddwyd dyn 32 oed o droseddau cyffuriau a'i gadw yn y ddalfa.
Dydd Sadwrn, Ebrill 28. 4pm. Sgwâr Loudoun.
Stopio a chwilio dyn 28 oed o Adamsdown oedd ag 20 lapiad o grac cocên, naw lapiad o heroin a phum bag o ganabis yn ei feddiant. Wedi ei gyhuddo o droseddau cyffuriau a'i gadw yn y ddalfa.
Dydd Sul, 29 Ebrill. 5pm. Clive Road.
Arestio dyn, 41 oed o Lundain, ar amheuaeth o ddelio mewn cyffuriau. Cyhuddo a'i gadw yn y ddalfa.
Dydd Sul, 29 Ebrill. 4pm, Rover Way.
Dyn 35 oed o orllewin canolbarth Lloegr, y credir iddo fod yn gyrru i gyfeiriad Bae Caerdydd, wedi’i stopio gan yr heddlu am ei fod yn yrrwr wedi’i wahardd. Canfod 15 cilo o ganabis a chyllell yn ei gerbyd, ac owns o heroin yn ei drôns. Cafodd ei gyhuddo o droseddau cyffuriau a gyrru.
Mae opsiynau eraill ar gael ar wahân i ffonio 101, ac rydym yn annog pobl i gysylltu â ni i roi gwybod am ddigwyddiadau nad ydynt yn rhai brys:
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📧 E-bost [email protected]
📞 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.