Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r tîm plismona yn y gymdogaeth lleol yn Nhonysguboriau wedi ymuno â swyddogion plismona'r ffyrdd, yr Uned Diogelwch ar y Ffyrdd a Cherbydau Masnachol a'r @Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau er mwyn mynd i'r afael â goryrru a gyrru gwrthgymdeithasol.
Cynhaliwyd Ymgyrch Buena ddydd Gwener 21 Ebrill, a chafodd mwy na 30 o gerbydau eu stopio gan y tîm. Mae 17 o yrwyr eraill hefyd wedi cael Hysbysiad o Fwriad i Erlyn drwy'r post.
Canolbwyntiodd swyddogion ar yr A4119, sef ffordd lle ceir sawl achos o gerbydau yn goryrru a gyrru anystyriol, gan stopio cerbydau mewn mannau lle roedd swyddogion yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau yn barod i gynnal archwiliadau.
Nodwyd amrywiaeth o droseddau, o oryrru a throseddau yn ymwneud â llwythi i addasiadau anghyfreithlon a pheryglus i gerbydau.
O blith y cerbydau a stopiwyd:
cafodd 2 yrrwr hysbysiad gwahardd ar unwaith oherwydd cyflwr peryglus eu cerbydau, sy'n golygu na allant eu gyrru nes i'r problemau gael eu hatgyweirio
cafodd 4 gyrrwr hysbysiadau gwahardd gohiriedig oherwydd diffygion, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt fynd â'u cerbyd i gael MOT ar unwaith
rhoddwyd 8 rhybudd llafar am fân droseddau
cyflwynwyd 5 Adroddiad Trosedd Draffig
cyflwynwyd 2 yrrwr i'w gwysio
cofnodwyd manylion 1 gweithredwr cerbydau masnachol am droseddau yn ymwneud â thrwydded gweithredwr
Dywedodd yr Arolygydd Plismona Lleol, Leigh Parfitt: “Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau a'n cydweithwyr yn Adran Plismona'r Ffyrdd wedi bod yn wych.
“Mae swyddogion yn y gymdogaeth wedi bod yn gwrando ar y gymuned leol a, gyda'u cymorth, maent yn cymryd camau.
"Gobeithio y bydd hynny yn rhoi tawelwch meddwl i'r rhai y mae'r problemau hyn wedi effeithio arnynt.
"Mae'r unigolion hyn yn gyrru cerbydau nad ydynt yn ddiogel, gan beryglu eu hunain a modurwyr eraill. Mae ymgyrchoedd megis Ymgyrch Buena yn ein galluogi i ymgysylltu â'r cyhoedd mewn ffordd sy'n hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd ac yn annog pobl i beidio â defnyddio cerbydau mewn ffordd wrthgymdeithasol”