Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru wedi llwyr ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac mae pob un ohonom am i'n staff, ein swyddogion a'n gwirfoddolwyr deimlo eu bod yn cael eu cynrychioli a'u cefnogi.
Mae mis Hydref yn Fis Hanes Pobl Ddu, ac rydym yn parhau i godi ymwybyddiaeth, dathlu ac arddangos hanes pobl ddu.
Rydym yn falch o gael ystod amrywiol o rwydweithiau a chymdeithasau staff sydd, nid yn unig yn cefnogi'r rhai sy'n gweithio i Heddlu De Cymru ond sydd hefyd yn ein cefnogi ni fel sefydliad, gan helpu i wneud ein penderfyniadau.
Yma, mae ein tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn tynnu sylw at rai o'r rhwydweithiau sydd gennym a sut y maent yn gysylltiedig ag amrywiaeth, diwylliant a threftadaeth y gymuned Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) ac yn eu dathlu.
Cymdeithas Gristnogol yr Heddlu yw'r gymdeithas staff hynaf ym maes plismona yn y DU, ac yn HDC. Mae'n Elusen Genedlaethol sy'n cynnwys canghennau lleol yn yr heddluoedd unigol. Ei nod yw hyrwyddo a chefnogi pob Cristion yn yr heddlu, yn ogystal â'n cydweithwyr o fewn y teulu plismona. Ni waeth beth fo'u hil neu gefndir.
Mae'r gymdeithas yn gweithio gyda gwasanaeth Caplaniaeth yr Heddlu i gefnogi swyddogion yr heddlu a staff i sicrhau iechyd ysbrydol ac i hyrwyddo digwyddiadau a gwyliau crefyddol. Mae'n gweithio gyda'r Heddlu ledled y byd drwy Gymrodoriaeth Genedlaethol Heddlu Cristnogol. Mae'r gymdeithas yno i fod yn bont rhwng yr heddlu a'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu. Mae Cymdeithas Gristnogol yr Heddlu yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o elusennau a sefydliadau sy'n ymwneud â gweithredu'n gymdeithasol mewn cymunedau ledled y DU. Yn sgil cred lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi ac yn werthfawr, mae'n gweithio er mwyn helpu i greu polisïau ar gyfer sicrhau cynhwysiant a chynrychiolaeth gwell o fewn yr heddlu.
Lansiwyd Grŵp Cenedlaethol Menywod o Liw Mewn Plismona yn y DU ym mis Rhagfyr 2022 sy'n grŵp cenedlaethol gydag is-grwpiau rhanbarthol. Ei nod yw canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r diffyg cynrychiolaeth o Fenywod o Liw Mewn Plismona (swyddogion, staff a'r teulu plismona ehangach) yn ogystal â cheisio rhannu profiadau byw a gwir ddealltwriaeth o'r rhwystrau i ddatblygu a gwneud cynnydd.Mae'r grŵp yn ceisio cynyddu llais a safle Menywod o Liw Mewn Plismona. Nod y grŵp yw cynyddu, ymgysylltu a chefnogi hyder ymysg ein cydweithwyr drwy rwydwaith effeithiol a bywiog. Ei fantra yw ‘rydyn ni'n gryfach gyda'n gilydd’ gyda'r weledigaeth a'r gobaith o gynyddu ymwybyddiaeth a chynrychiolaeth ym mhob un o'r heddluoedd.
Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yn canolbwyntio ar fod yn gynhwysol ac yn hawdd mynd ato, gan greu rhwydwaith cefnogol ar gyfer pob cydweithiwr sy'n gweithio ym mhob rhan o'r Heddlu. Prif ffocws Rhwydwaith Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yw cefnogi Swyddogion a staff sy'n nodi eu bod yn fenywod gyda materion sy'n benodol ar gyfer menywod, megis beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, menopos, a thangynrychiolaeth o fenywod mewn rolau a rhengoedd penodol.
Mae prosiectau parhaus GEN yn berthnasol ar gyfer ffrydiau gwaith ar wahân, sy'n cynnwys gwireddu potensial, llesiant ac Iechyd Dynion i'r eithaf. Mae'r Rhwydwaith Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yn ymgysylltu'n agos â rhwydweithiau eraill i sicrhau'r lefel uchaf o gynhwysiant ac i gysylltu a chydweithio â'r Gymdeithas Genedlaethol Menywod ym maes Plismona a Chymdeithas yr Heddlu Du.
Ffurfiwyd Cymdeithas Heddlu Mwslimaidd De Cymru, neu "SWAMP", i ddarparu rhwydwaith cefnogol ar gyfer ein cydweithiwr Mwslimaidd ym mhob rhan o'r heddlu. Ei nod yw meithrin cysylltiad â'r gymuned ehangach i hyrwyddo dealltwriaeth well o Islam er mwyn cyfrannu at gydlyniant cymunedol a gwella diogelwch i bawb. Mae'r gymdeithas yn darparu fforwm i Fwslimiaid o fewn HDC ac yn cefnogi eu hanghenion crefyddol a'u hanghenion o ran lles, gyda'r nod o wella eu hamgylchedd gwaith yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i bawb.
Cafodd y Rhwydwaith Niwroamrywiaeth ei sefydlu i godi ymwybyddiaeth o Niwroamrywiaeth yn Heddlu De Cymru er mwyn rhoi cymorth i gydweithwyr Niwroamrywiol a chydweithwyr sy'n gofalu am bobl â chyflyrau Niwroamrywiol, yn ogystal â chydweithwyr a hoffai ymgysylltu â'r Rhwydwaith fel cynghreiriaid.
Ei nod yw codi ymwybyddiaeth er mwyn i'r aelodau allu cyrraedd y gwaith a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u deall. Mae'n gwneud hyn drwy ddarparu cymorth un i un a chynnal amrywiaeth o weminarau a sesiynau dal i fyny ac yn rhoi cyfleoedd i dimau ac adrannau eraill gyfrannu at y rhwydwaith ynghylch cyflyrau niwroamrywiol ac addasiadau rhesymol. Mae'r rhwydwaith hefyd yn cyfeirio swyddogion a staff, yn ogystal â rheolwyr llinell, i gael cymorth ni waeth beth fo'u hil.
Cafodd Rhwydwaith Heddlu LHDT+ Cymru ei greu i gefnogi'r bobl LHDT+ sy'n gweithio yn y maes Plismona yng Nghymru. Ei nod yw hyrwyddo lle diogel i swyddogion a staff fod yn nhw eu hunain yn y gweithle a sicrhau y gallant gael gafael ar gymorth arbenigol yn ôl yr angen, gan feithrin cymuned. Mae hefyd yn gweithredu fel cyfaill critigol i'r sefydliad drwy helpu i greu polisïau cefnogol, rhoi mewnbwn cymunedol ac annog arferion gorau yn y sefydliad er mwyn helpu i wella'r ffordd rydym yn plismona pobl LHDT+ yng Nghymru ac yn cefnogi ein gweithlu ein hunain.
Mae'r Rhwydwaith hefyd yn helpu i greu cydberthynas gadarnhaol â'r gymuned yn ehangach er mwyn ceisio gwella'r cysylltiadau â gwasanaeth yr heddlu. Mae'r Rhwydwaith yn cydweithio â rhwydweithiau cymorth staff eraill ledled Cymru a'r DU i wella'r profiad o blismona grwpiau lleiafrifol o fewn y gymuned LHDT+, megis pobl Drawsrywiol neu anneuaidd, pob deurywiol a LHDT+ o gefndiroedd ethnig lleiafrifol nad ydynt wedi gallu codi eu lleisiau o fewn y maes plismona pobl LHDT+.
Nod Cymdeithas Heddlu Du De Cymru yw gwneud De Cymru yn lle mwy diogel a heddychlon, lle mae gan y cyhoedd – yn enwedig pobl ifanc, pobl sy'n agored i niwed neu bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig – lefel uchel o hyder yn yr heddlu.
Mae'r gymdeithas yn ceisio gwella amgylchedd gwaith staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn Ne Cymru drwy wella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir i'w cymunedau amrywiol. Drwy ddarparu rhwydwaith cymorth ar gyfer pob aelod o staff ethnig leiafrifol, ac ymdrechu i wella cydberthnasau rhwng yr heddlu a chymunedau, bydd y gymdeithas yn chwarae rôl gadarnhaol drwy gefnogi aelodau o staff mewnol ac, yn allanol, drwy gefnogi pob cymuned yn Ne Cymru.
Mae'r Rhwydwaith Cymorth Anabledd yno ar gyfer unrhyw un sydd ag anabledd, y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu neu unrhyw gysylltiadau eraill â rhai sydd â phroblemau yn sgil eu hanabledd. Gweithredir Rhwydwaith Cymorth Anabledd drwy ddull sy'n seiliedig ar hawliau sy'n hyrwyddo dealltwriaeth am y Model Cymdeithasol o Anabledd, yn hytrach na'r Model Meddygol sy'n golygu ei fod yn ceisio datgymalu'r rhwystrau sy'n gysylltiedig ag ‘Agwedd’, ‘Sefydliad’ ac yr ‘Amgylchedd’ sy'n rhwystro pobl anabl rhag cymryd rhan yn llawn yn y gymdeithas.
Mae'r rhwydwaith yn ceisio gwneud i bob un ohonom feddwl yn fwy cadarnhaol am anabledd drwy ganolbwyntio ar yr hyn y gall unigolyn ei wneud yn hytrach na'r ‘hyn na all ei wneud’.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhwydweithiau a'r cymdeithasau yn Heddlu De Cymru yma.
Cliciwch yma er mwyn gweld ein hymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.